Cadwallon ap Gruffudd
Gwedd
Cadwallon ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 1090s Gwynedd |
Bu farw | 1132 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Gruffudd ap Cynan |
Mam | Angharad ferch Owain |
Cadwallon ap Gruffudd (bu farw 1132) oedd mab hynaf Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd a'i wraig Angharad ferch Owain.
Daw Cadwallon i'r amlwg yn y cofnodion yn ystod rhan olaf teyrnasiad ei dad. Yn 1123, ymosododd ef a'i frawd iau, Owain Gwynedd ar gantref Meirionnydd, a oedd yn perthyn i Deyrnas Powys ar y pryd. Yn 1124 cipiodd gantref Dyffryn Clwyd o ddwylo Powys a'i adfer i Wynedd. Mewn ymgyrch ddiweddarach, lladdwyd ef mewn brwydr gan fyddin o Bowys yng nghwmwd Nanheudwy, ger Llangollen, yn 1132.[1] Atalwyd cynnydd tiriogaethol Gwynedd am gyfnod ar ôl hynny.
Gadawodd Cadwallon blant ar ei ôl, yn cynnwys merch o'r enw Tangwystl.[2]