C.P.D. Cymric

Oddi ar Wicipedia
Cymric
Enw llawnClwb Cymric
Sefydlwyd1969
MaesCwrt-yr-Ala
Caerdydd
(sy'n dal: 220)
CadeiryddCymruHywel Price
ManagerCymru Steve Cope
CynghrairSouth Wales Alliance Football League [1]
Green and white hooped jersey, green shorts and socks
Lliwiau Cartref

Clwb pêl-droed Cymraeg ei weinyddiaeth a'i fywyd cymdeithasol yng Nghaerdydd yw Clwb Pêl-droed Cymric.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y clwb yn swyddogol yn 1969 gan chwarae ei dymor gyntaf yn nhymor 1968-69 yn Adran Pump, Cynghrair Caerdydd a'r Cylch. Ysbrydolwyd sefydlu'r clwb pêl-droed gan sefydlu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn 1967. Enw gwreiddiol y clwb oedd "Clwb Pê-droed Cymry Caerdydd". Ceir sôn am y clwb yn y rhifyn cyntaf un o'r Y Dinesydd yn 1974 gan nodi'r berthynas agos rhwng aelodau'r clwb a'r papur.[2]

Mae’r tim pêl-droed oedolion bellach yn chware yn y “South Wales Alliance League”. Maes chwarae cartref Cymric yw cae Cwrt-yr-Ala yn ardal Trelái, Caerdydd.

Lliwiau[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd y tîm eu gêm gyntaf yn gwisgo crysau a sannau coch a thrwsus gwyrdd ond gan mai gwyrdd oedd lliw crysau'r gwrthwynebwyr hefyd, bu rhaid i'r Cymric chwarae eu gêm gyntaf yn eu crwyn.[3] Mabwysiadwyd y cit swyddogol o grysau gyda streipiau gwyrdd a gwyn lloreweddol ar gyfer tymor 1985-86 pan chwaraeodd Cymric yn Uwch Gynghrair Caerdydd a'r Cylch am y tro cyntaf.

Dros y blynyddoedd mae'r cit wedi newid sawl gwaith. Bellach crys gyda streipiau gwyrdd a gwyn lloewddol cit cyntaf - strip tebyg i un Celtic F.C..

Timau[golygu | golygu cod]

Mae'r clwb yn cynnwys:

Dau dîm oedolion
Timau pêl-droed oedran 7-11 a dan 18 a elwir Y Crocs
Timau merched mewn pêl-rwyd, pêl-droed a hoci

Gwobr Carwyn[golygu | golygu cod]

Ers tymor 2006-07 dyfernir Gwobr Carwyn ar gyfer cyfraniad gan chwaraewr i'r clwb dros y tymor. Enwir y wobr er cof am Carwyn Thomas, oedd yn wreiddiol o Dregarth ger Bangor a bu'n chwaraewr flaenllaw i'r clwb am ddegawd ond bu farw yn 2006. Cyn ei farwolaeth Carwyn oedd yr unig chwaraewr i ennill gwobr 'Chwaraewr y Flwyddyn' i'r ail dîm a'r tîm cyntaf. Ef hefyd ddyluniodd arwyddlun y clwb.

Englyn y Clwb[golygu | golygu cod]

Ceir englyn i'r Cymric a gyfansoddwyd gan Carwyn Eckley:

Waeth o le o'r Sowth o Lŷn - ni ddynion
y ddinas sy'n perthyn
Dan undod y bathodyn
mond Cymric sy'n cynnig hyn

Cyn-chwaraewyr Adnabyddus[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-22. Cyrchwyd 2020-05-30.
  2. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-06-05. Cyrchwyd 2020-06-05.
  3. http://www.clwbcymric.cymru/gwybodaeth