Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Logo Clwb Rygbu Cymry Caerdydd

Clwb Rygbi Cymry Caerdydd neu CRCC sef Clwb Rygbi sydd wedi ei leoli yn y brif ddinas. Cafodd ei sefydlu'n 1967[1] ac yn bellach gyda thimoedd Ieuenctid, Merched a thimoedd Dynion 1XV, XV2 a XV3 a 'Hen Lawiau' yn achlysurol. Mae'r tîm gyntaf yn chwarae yng Nghynghrair 2 Canol, Dwyrain gyda'r Ail dîm yn cystadlu'n Cynghrair 1 'Cardiff & District'. Cartref y Clwb yw Caeau Pontcanna gyda'r Clwb Rygbi wedi lleoli'n Clwb Cameo ar hyn o bryd.

Yn nhymor 2016-17 dathlodd y Clwb Rygbi 50 mlwyddiant o fodolaeth gyda llu o ddigwyddiad gan gynnwys taith i Lydaw. Yn 2014 enillodd y Clwb Rygbi'r Fowlen Genedlaethol yn Stadiwm Mileniwm yn erbyn Llanilltud Fawr fel rhan o ddiwrnod rowndiau terfynol SWALEC.[2]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/39749901
  2. http://www.walesonline.co.uk/sport/rugby/rugby-match-reports/swalec-finals-day-clwb-rygbi-7071183