Côr-ona
Enghraifft o'r canlynol | rhaglen deledu |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Genre | cerddoriaeth |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Grŵp agored ar gyfer cerddorion yw Côr-ona. Anogir i bobl postio fideos ohonynt yn canu neu'n chwarae offerynnau tra'n hunan-ynysu yn ystod cyfnod y Gofid Mawr. Mae thema gwahanol bob dydd i’r math o ganeuon y dymunir gael eu postio. Fis Medi 2020, roedd gan y grŵp dros 46,000 o aelodau ar safle Facebook[1].
Yn sgil llwyddiant y grŵp, mae S4C wedi comisiynu rhaglen newydd. Arweinydd Côr-ona yw Catrin Angharad Jones ac mae wedi llwyddo i ddenu bron i 17,000 o ddilynwyr, gyda channoedd o unigolion yn cyfrannu fideos a phrofi bod modd cymdeithasu o bell, trwy gyfrwng y Gymraeg.[2] Cynhyrchir y rhaglen gan Cwmni Da, lle gwelwyd Rhys Meirion yn cynnal arbrawf cymdeithasol trwy ddod â phobl o bell ac agos at ei gilydd i fwynhau canu - boed hynny ar gliniadur yn y gegin, ipad yn y shed neu PC yn yr atig.Aneglur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "CÔR-ONA!". Cyrchwyd 2020-09-27.
- ↑ www.s4c.cymru; adalwyd 15 Medi 2020.