Bwca

Oddi ar Wicipedia

Sefydlwyd Bwca yn wreiddiol yn Hydref 2017 fel prosiect cerddorol unigol y cerddor o Aberystwyth, Steff Rees. Heddiw, mae Bwca wedi tyfu i fod yn fand sydd wedi ymddangos droeon ar S4C, BBC Radio Cymru ac ar lwyfannau ar draws Cymru.

Yn llawn caneuon bachog, gellir disgrifio sain Bwca fel roc indi sydd yn fflyrtio gyda sawl genre arall megis pync, blŵs, soul a chanu gwlad.

Mae caneuon Bwca wedi cael eu hysbrydoli gan brofiadau a chynefin Steff Rees. Yn byw yn Aberystwyth ers dros deg mlynedd mae themau ei ganeuon yn dathlu ei fro a'i chymeriadau. Er yr ysfa i glodfori'r gorllewin gwyllt ceir nifer o enghreifftiau o ganeuon dychanol (e.e. Hoffi Coffi a Lan yn y Gen) a chaneuon gwleidyddol (Pawb di Mynd i Gaerdydd a Cno dy Dafod) hefyd.

Rhyddhawyd albwm cyntaf Bwca sef 'Bwca' ar label Recordiau Hambon ym mis Tachwedd 2020 ar CD ac ym mis Ionawr 2021 yn ddigidol.

Hanes yr Enw 'Bwca'[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Steff berfformio yn gyhoeddus fel canwr-gyfansoddwr am y tro cyntaf yn Chwefror 2016 a hynny dan yr enw 'Steff Marc' mewn cystadleuaeth 'Brwydr y Bandiau' Mentrau Iaith Cymru, BBC Radio Cymru a Maes B yng Nghlwb Pêl Droed Aberystwyth. Yn llawn nerfau a chamgymeriadau roedd y perfformiad cyntaf yma fel 'Steff Marc' yn un i'w anghofio i Steff ond roedd y gynulleidfa wedi mwynhau ei jôcs a'i ganeuon bachog. Cafwyd ambell gig pellach yn 2016-17 gan gynnwys cefnogi Welsh Whisperer yng Nglwb Rygbi Tregaron a chwarae yng Ngŵyl Hen Linell Bell a Gŵyl Fwyd Aberystwyth. Er fod safon y perfformiadau wedi gwella tipyn erbyn haf 2017 roedd Steff eisiau newid yr enw er mwyn cyfleu ymdeimlad o newid a dechrau eto gyda llechen lân.

Darganfyddodd Steff yr enw 'Bwca' am y tro cyntaf tra'n darllen nofel 'Dadeni' Ifan Morgan Jones ac ar ôl gwneud ychydig fwy o ymchwil teimlodd fod hwn yn enw addas iawn ar gyfer ei brosiect newydd ac yn bwysicach oll yn un hawdd i'w ynganu i bobl Cymraeg a di-Gymraeg.

Yn ôl pob sôn, roedd y Bwca yn rhywfath o gorrach neu goblyn oedd yn byw dan ddaear mewn pyllau glo yn ne Cymru gan chwarae triciau ar y glowyr yn ogystal â'u rhybuddio am beryglon fel nwy gwenwynig neu os oedd y to am gwympo. Fel crwt cafodd ei fagu yn y maes glo yng Nghwm Gwendraeth oedd â chaneuon oedd ar yr un llaw yn ddireidus a dychanol ac ar y llaw arall yn bigog a gwleidyddol teimlodd fod yr enw yma yn gweddu i'r dim.


Dyddiau Cynnar[golygu | golygu cod]

Cafwyd y perfformiad cyntaf dan yr enw 'Bwca' mewn gig Wythnos y Glas a drefnwyd gan Y Selar yn Neuadd Pantycelyn ar nos Sul Medi 24ain 2017. Perfformiad solo oedd hwn i Steff gan ddefnyddio ei beiriant lŵpio arbennig oedd yn creu trac cefndirol gyda bas, drymiau a gitâr blaen ac yntau yn ychwanegu gitâr rhythm a llais yn fyw.

Dros fisoedd y Gaeaf 2017-2018 aeth Steff i Stiwdio Fflach yn Aberteifi i gael profiad mewn stiwdio recordio er mwyn datblygu a recordio llond llaw o ganeuon ac roedd rhain yn cynnwys Pawb 'di Mynd i Gaerdydd (sef sengl gyntaf Bwca), Hoffi Coffi a Cno dy Dafod. Cafodd y caneuon yma eu chwarae yn eithaf cyson gan BBC Radio Cymru yn enwedig ar raglen Ifan Jones Evans ac fe gafodd Steff gyfweliad gydag Ifan i hyrwyddo rhyddhau Pawb 'di Mynd i Gaerdydd.

Chwaraeodd Steff ambell i gig solo dros haf 2018 gan gynnwys chwarae ar Lwyfan y Llong yng Ngŵyl Nôl a Mlân 2018 ac ar stondin Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Bae Caerdydd. Y gig hynny oedd y tro cyntaf i Steff berfformio gig Bwca yn acwstig - arddull a fyddai'n datblygu i fod yn gyffredin yn y dyfodol.

Ffurfio Band[golygu | golygu cod]

Wedi cael blas o berfformio ar lwyfannau mawr tebyg i Ŵyl Nôl a Mlân a chael adborth cadarnhaol gan gynulleidfaoedd a'r wasg penderfynodd Steff fod angen ffurfio band er mwyn datblygu Bwca a'r stoc o ganeuon bachog a bywiog oedd ganddo i'w lawn botensial. Yn Hydref 2018 fe wnaeth gyfarfod Alun Williams mewn gig Bwncath ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid. Yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn chwarae'r bas i Bwncath perswadiodd Gwilym Bowen Rhys Alun y dylai ymuno gyda Steff i greu band Bwca.

Yr aelod nesaf i ymuno oedd Rhydian Meilir Pughe o Gemaes ger Machynlleth. Roedd Steff wedi cyfarfod Rhydian pan gwnaeth ddarparu offer sain yn y gig Brwydr y Bandiau yn 2016 ac roedd yn ymwybodol fod Alun yn ei adnabod yn dda ar ôl bod yn recordio gyda fe yn ei stiwdio sef Stiwdio Bing. Gan fod perchnogion stiwdio yn dda am adnabod cerddorion lleol gwnaeth Rhydian recriwtio Kristian Jones o Benegoes ger Machynlleth i ymuno fel ail gitarydd y band. Yn aelod o fand The Pumpers a Henebion ac yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth roedd Bwca bellach yn fand.

Cafwyd ymarferion rheolaidd ar brynhawniau Sul yn Stiwdio Bing er mwyn cyflwyno'r caneuon i'r tri arall a cael nhw i'w dysgu. Tua'r adeg yma hefyd cyflwynodd Steff pumed aelod Bwca sef Ffion Evans o Landre ger Aberystwyth er mwyn cyfrannu llais cefndir a thrwmped i'r band.

Wedi cyfnod o ymarferion rheolaidd yn stiwdio Stiwdio Bing chwaraeodd Bwca eu gig cyntaf fel band ar Nos Wener Chwefror 22ain 2019 yn y Llew Du, Talybont, Aberystwyth ar un o nosweithiau Sesiwn Nos Wener Talybont. Yn agor y noson cafwyd set unigol gan Ffion gyda Steff yn cyfeilio ar y gitâr a Cherddorfa Iwcadwli sef grŵp ukulele hwyliog Steff.

Dros y misoedd nesaf gwnaeth Bwca deithio i chwarae gigs ar hyd a lled Cymru gyda gigs yn Llandrindod, Pwllheli, Aberystwyth, Rhydaman, Dolgellau, Bae Caerdydd, Pontypridd, Llanelwedd ac yng Ngwyl Gwenlli ger Post Mawr, Ceredigion.

Yng nghanol yr holl brysurdeb yma rhyddhawyd sengl a recordiwyd yn Stiwdio Bing sef 'Weda I' ac fe gafodd hon sylw gan BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a sawl gorsaf radio lleol.

Recordio Albwm[golygu | golygu cod]

Er mawr siom i'r band ni chafwyd cyfle i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst felly y gig ym Mhenmaenau, Llanelwedd adeg y Sioe Fawr fyddai eu gig olaf yr haf hwnnw a dyma fyddai eu gig olaf fel pump gydag Alun a Rhydian.

Wedi blwyddyn llawer prysurach na'r disgwyl fe chwalwyd Bwca eu targed o 'wasgu mewn i ambell ŵyl' a symudwyd i'r targed nesaf ar y rhestr sef recordio albwm a'i gael yn barod ar gyfer y Brifwyl ar eu stepen drws yn Nhregaron yn 2020. Bwciodd Steff Stiwdio Sain am bum diwrnod ym mis Medi er mwyn cael cyfle i gydweithio gyda Osian Huw Williams ac Ifan Emlyn Jones o gwmni cynhyrchu Drwm a Candelas i greu albwm gwerth ei halen.

Tra fod y band wedi ffurfio fel pump cerddor oedd yn byw yn agos i'w gilydd yn y canolbarth erbyn tymor yr Hydref 2019 roedd Alun wedi symud yn ôl i'r Ffôr ger Pwllheli a penderfynu gadael y band, roedd Ffion wedi symud i'r brifysgol ym Mangor ac roedd Rhydian a Kristian wedi symud i Gaerdydd i gwblhau cyrsiau prifysgol.

Er y rhwystrau gwnaeth Steff, Rhydian, Ffion a Kristian gwblhau recordio'r albwm rhwng Medi 2019 a Chwefror 2020. Gwnaeth ambell unigolyn ychwanegol ymuno gyda nhw yn y stiwdio sef Nick Davalan ar y gitâr fas, Dilwyn Roberts ar yr organ geg ac Iwan Hughes ar yr offer taro a'r lleisiau cefndir.

Gorffennwyd recordio'r albwm ar Chwefror 22ain 2020.

Rhyddhau 'Tregaron'[golygu | golygu cod]

Rhwng yr holl deithiau i Stiwdio Sain gwnaeth Bwca berfformio dwy gig yn Aberystwyth yn ystod misoedd y gaeaf gyda'r cyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Ragfyr 5ed 2019 a'r ail ar Chwefror 7fed yng Nghanolfan y Celfyddydau. Gyda Rhydian yn styc yn ei lyfrau yng Nghaerdydd fe ymunodd Iwan Hughes fel drymiwr i Bwca am y gigs yma. Gwnaeth Steff gyfarfod â fe am y tro cyntaf yn Stiwdio Fflach tra'n recordio yn 2017-8.


Yn ogystal â'r gigs yma fe wnaeth Bwca recordio perfformiad ar gyfer Noson Lawen S4C ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ym mis Hydref 2019 gyda band oedd yn cynnwys Steff, Ffion, Kristian, Iwan ac Alun yn dychwelyd am 'un noson arall' ar y bas. Noson Lawen Tregaron a'r Cylch oedd y noson yma felly cafodd Bwca wahoddiad gan fod cân newydd sbon ganddynt o'r enw 'Tregaron'. Er fod y gân wedi ei ysgrifennu sbel cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi fod y Brifwyl am fynd i Dregaron roedd y gân yn cynnig ei hun i'r dim fel anthem i'r achlysur arbennig hwn.

Os bydd dy fywyd di yn troi yn strach,

Cer mas i'r wlad am siot o awyr iach.

Boed law neu hindda,

By't ti'n teimlo'n well 'na.

Cer am sbin,

I Dregaron.


Pan fydd dy waith di'n dechre peilo lan

Na'n siwr dy fod di'n troi yn Llanfarian

Yn Llanilar cer rownd

A'n Lledrod dal sownd

Caria mlân i Dregaron


Dere da fi am dro

Lan i ben y bryn

Dangosa i ti'r fro

Dere da fi am sbin

I Dregaron


I George Borrow dyma'r hyfrydle

I'r Iaith Gymraeg dyma'i chadarnle

Os chi'n ddigalon

Wel dyma'ch gwerddon

Iechyd da i Dregaron

Er yr holl gyffro, roedd pandemig Cofid-19 ar led ar draws y byd ac yng nghanol y Cyfnod Clo oedd yn mynd yn hirach ac yn hirach fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod Tregaron 2020 am gael ei ohirio a hynny ond rhai diwrnodau cyn y dyddiad ar gyfer rhyddhau'r sengl 'Tregaron'. Serch hyn, penderfynodd Steff i newid y datganiad i'r wasg a gweld y cyfan fel cyfle yn hytrach na rhwystr a pharhau gyda rhyddhau'r trac ar Ebrill 3ydd 2020 fel cân fyddai'n cynnal y cyffro at yr Eisteddfod pryd bynnag fyddai hynny.

Chwaraewyd 'Tregaron' fel sengl am y tro cyntaf ar BBC Radio Cymru ar sioe Ifan Jones Evans ac fe gafodd Steff sgwrs gydag Ifan sydd â chysylltiadau agos gyda Thregaron ar y sioe i drafod y trac.

Erbyn heddiw dyma'r trac Bwca sydd wedi ei ffrydio y fwyaf o weithiau ar Spotify ac mae'n parhau i gael ei chwarae yn weddol aml ar BBC Radio Cymru.

Y Cyfnod Clo[golygu | golygu cod]

Gigs Rhithiol[golygu | golygu cod]

Y bwriad gwreiddiol oedd i ryddhau albwm Bwca yn ystod Gwanwyn neu'n gynnar yn Haf 2020 yn barod ar gyfer ei gigio yn helaeth o gwmpas y wlad gan orffen yn Eisteddfod Ceredigion 2020 ble'r oedd eisoes nifer o gigs wedi eu trefnu. Er hyn, wrth i'r Cyfnod Clo orfodi digwyddiad ar ôl digwyddiad i ganslo a rhwystro bandiau fel Bwca i allu cwrdd i ymarfer ayyb. roedd y cynllun yma yn amhosib ei wireddu.

Penderfynodd Steff felly i ryddhau dwy sengl ychwanegol dros y Gwanwyn a'r Haf cyn ryddhau'r albwm cyn y Nadolig gyda'r nod y byddai hyn yn sicrhau mwy o sylw i Bwca na rhyddhau'r cwbl yn y Gwanwyn. Yn hynny o beth, rhyddhawyd "Hiraeth Fydd (701)" ar y 5ed o Fehefin ac "Elvis Rock" ar yr 17eg o Orffennaf.

Dros y misoedd cynnar yma roedd cynnal perfformiadau rhithiol amrwd yn boblogaidd iawn gydag artistiaid a gyda chynulleidfaoedd ac roedd Steff wedi penderfynu bod yn ran o'r ffasiwn yma gan berfformio nifer o weithiau. Enghraifft o hyn oedd "Taith y Town a'r Gown" sef dwy gig rhithiol i lansio Hiraeth Fydd fel sengl. Chwaraeodd Steff y gig cyntaf ar gyfer Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a'r ail ar gyfer BroAber360. Yn ei steil tafod y boch ei hun roedd Steff yn brolio taw Bwca oedd yr unig fand yn y byd oedd yn teithio ar y pryd!

Delwedd:Iwan a Steff Bwca Awst 2020.jpg
Bwca ar daith yn Aberaeron (Awst 2020)

Mynd ar Daith[golygu | golygu cod]

Wrth i gyfyngiadau'r Cyfnod Clo lacio ychydig ym mis Awst 2020 cafodd Bwca gyfle arbennig i berfformio tair gig awyr agored o gwmpas trefi de Ceredigion ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion a Haka Entertainment. Rhwng Awst 22-31 gwnaeth Steff ac Iwan berfformio set acwstig ond bywiog o ganeuon Bwca yn Aberaeron, Ceinewydd ac Aberteifi.

Yn syth wedi'r gig olaf yn Aberteifi fe deithiodd Steff i'r Gogledd er mwyn perfformio "Elvis Rock" ar rhaglen arbennig o Noson Lawen gyda thalentau Gogledd Ceredigion ar y 1af o Fedi. Perfformiodd Steff gyda band y Noson Lawen oedd yn brofiad cofiadwy er gwahanol i'r arfer. Fe ymddangosodd y rhaglen hon ar S4C yn ystod Gwanwyn 2021.

Rhyddhau'r Albwm[golygu | golygu cod]

O ystyried y cyd-destun o Cofid-19 a gorfod newid cynlluniau rhyddhau'r albwm penderfynodd Steff fod yr amser yn iawn i ryddhau'r albwm ar CD o'r diwedd ym mis Tachwedd yn barod ar gyfer llenwi ambell hosan Nadolig. Fe ddilynwyd hwn gan ryddhau'r albwm yn ddigidol yn y Flwyddyn Newydd. Dros y cyfnod yma fe gafwyd tipyn o sylw yn y wasg gan gynnwys gwneud ambell beth am y tro cyntaf fel ymddangos ar dudalennau Y Selar a Golwg a chael recordio fideos ar gyfer cwpl o ganeuon fel band ar gyfer Lŵp.

2021 Hyd yn Hyn[golygu | golygu cod]

Ers rhyddhau'r albwm mae 2021 wedi bod yn flwyddyn gymharol dawel i Bwca ond fe fuodd Steff, Ffion, Alun ac Iwan i recordio cân newydd sbon yn Stiwdio Sain ac mae llawer iawn o ddeunydd newydd ar waith gyda'r gobaith i ryddhau blas ohono cyn diwedd y flwyddyn.