Bryn Coed yr Esgob
Gwedd
| Math | bryn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Gallt Melyd |
| Sir | Sir Ddinbych |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 205 metr |
| Cyfesurynnau | 53.319051°N 3.3977°W |
![]() | |
Bryn Coed yr Esgob (neu Fryn Prestatyn) ydy'r bryncyn mwyaf gogleddol o holl Fryniau Clwyd, (211m; Cyfeirnod OS: SJ06808120), sy'n rhoi ffin ddeheuol i Brestatyn. Saif i'r gorllewin o Waenysgor a thydy'r môr yn ddim ond tua 1.5 kilometr i'r gogledd ohono. Mwyngloddiwyd plwm a chalch yma yn y 18ed a'r 19eg ganrif.[1]
Ceir hefyd ar y llethrau hen goedlan dderw o'r enw "Coed yr Esgob". Mae'r ferywen (sy'n brin iawn ac yn un o dair coeden gynhenid i Ynys Prydain), yn tyfu yma. Gan fod y tir mor serth, fe oroesodd yr hen dderw ar y llethrau isaf. Ceir yma fathau diddorol o redyn ar y tir llaith, cysgodol.
Ffurfiwyd calchfaen y bryn mewn môr trofannol a oedd yn gyforiog o fywyd, tua 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Coed Esgob, Llanelwy
