Brychan Llŷr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brychan Llyr)
Brychan Llŷr
Ganwyd1970 Edit this on Wikidata
Ceredigion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
TadDic Jones Edit this on Wikidata

Canwr pop Cymraeg a chyflwynydd teledu yw Brychan Llŷr (ganwyd 1970), sy'n enedigol o fferm y tu allan i Aberteifi, Ceredigion.

Plentyndod ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed yn fab i'r Prifardd Dic Jones a Sylvia Jean (Sian) Jones, a mynychodd Ysgol Gynradd Blaenporth ac Ysgol Uwchradd Aberteifi. Aeth ymlaen i astudio celf yng Ngholeg Caerfyrddin.

Ffurfio'r band 'Jess'[golygu | golygu cod]

Ffurfiodd y band Jess gyda ffrindiau ysgol yn 1987 a daeth i wir amlygrwydd yn ystod diwedd yr 1980au, gan chwarae gigs ledled Cymru, a Brychan yn hudo'r merched gyda'i bersona Jim Morrison-aidd, hanner noeth (o'r canol i fyny!)

Rhyddhaodd Jess eu halbwm gyntaf Jess (1988) ar label Fflach, ac fe'i dilynwyd gan Y Gath (1989), a ddangosai aeddfedrwydd anarferol a chyd chwarae tynn ac arbrofol. Cydnabyddir mai eu halbwm nesaf, Hyfryd i Fod yn Fyw (1990) yw eu campwaith. Mae'n un o albwms gorau y 1990au (mewn unrhyw iaith), gyda chlasuron megis "Julia Gitar" a "Shiglidi Bot" yn dangos band yn llithro'n ymddangosiadol ddiymdrech o un arddull i'r llall - seicadelia, gwerin, ffync, roc a phop.[angen ffynhonnell]

Roedd ffiniau'r band roc gitâr traddodiadol yn cael eu gwthio i'r eithaf. Ar ôl rhyddhau Paris Hotel (1992), yn ôl tueddiad y cyfnod, trodd Jess i ganu'n Saesneg, a rhyddhawyd Sextravaganja (1993) a oedd yn cynnwys fersiynau Saesneg o rai o ganeuon Paris Hotel. Recordiwyd rhywfaint o ddeunydd ar gyfer albwm bellach, o'r enw Pink, ond nid yw wedi gweld golau dydd hyd yma, er bod y chwedlau o'i chwmpas yn awgrymu y gallai fod eu halbwm gorau oll.[angen ffynhonnell]

Canu fel unigolyn[golygu | golygu cod]

Wedi hynny, ar ôl perfformio'n fyw ar deledu cenedlaethol yr Eidal, tawelwch fu o ran Jess, ond ni thawelwyd egni cerddorol Brychan Llŷr. Roedd yr albwm U4Ria (1997) yn dipyn o ymadawiad cerddorol, gyda Brychan yn rhydd i arbrofi efo'i lais dros wahanol fathau o arddulliau dawns (jyngl, hip-hop garage), a bu'n ormod o bwdin i lawer o ffans traddodiadol Jess i'w llyncu. Serch hynny, roedd yn albwm o flaen ei hamser, ac yn gam dewr ymlaen gan artist oedd â'i fryd ar ddilyn llwybr cerddorol bendant ei hun.[angen ffynhonnell]

Mabwysiadodd ymagwedd uniongyrchol, foel ar gyfer ei albwm unigol gyntaf, Veleno Rumoroso (1998), gyda 10 cân acwstig a recordiodd yn ei stiwdio gartref, ond roedd gwreiddioldeb y caneuon dwyieithog a llais anhygoel, aml-haenog Brychan yn nodweddion amlwg.[angen ffynhonnell] Mae ei ail albym unigol Vexed Fanatica (2000) ( Unigolyn? Dwyn llawer o'm syniadau y cwnt!) yn llawer mwy sylweddol - dros 48 munud o hyd, ond roedd yn dangos eto fod byd cerddorol Brychan yn fythol symudol, ac nad oedd diben ei gategoreiddio o dan bennawd unrhyw arddull arbennig. Roedd Bad Pink Vibe (2001) yn albwm fwy hwyliog, a hanner y caneuon wedi eu recordio fel perfformiadau byw, ac roedd yn cynnwys cyfraniad a ffrwyth cydweithio gyda Randy Bernsen, sydd wedi cydweithio gyda rai o enwau mwyaf y sîn jazz gyfoes.

Ei albwm ddiweddaraf yw Reel in Between, sy'n cynnwys cyfraniadau gan ei hen bartner o ddyddiau Jess, Chris Lewis, ac amryw o gerddorion Eidalaidd. Er mai cymharol ychydig o sylw a gafodd ei recordiau unigol yng Nghymru, gwnaeth dipyn o enw iddo'i hun yn yr Eidal, lle y mae'n ymwelydd cyson.[angen ffynhonnell]

Mae'n rhedeg gwersyll tîpis ar fferm ei deulu ym Mlaenannerch. Sir Benfro, ac mae'n gyflwynydd teledu a radio prysur.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]