Neidio i'r cynnwys

Bryan Martin Davies

Oddi ar Wicipedia
Bryan Martin Davies
Ganwyd8 Ebrill 1933 Edit this on Wikidata
Brynaman Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 2015, 26 Awst 2015 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, athro Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Bryan Martin Davies (8 Ebrill 193319 Awst 2015). Cafodd ei eni yn fab i löwr ym Mrynaman, Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth a thra'r oedd yno daeth i edmygu gwaith T. H. Parry-Williams. Wedi graddio treuliodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Rhiwabon.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970 ac eto'r flwyddyn ganlynol ym Mangor. Cyhoeddwyd pum cyfrol o gerddi ganddo rhwng 1980 ac 1988. Ysgrifennodd hefyd cyfieithiad Cymraeg o'r prolog i The Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer (1983), a nofel ffantasi am lwynogod o'r enw Gardag (1988).

Bu farw yn 2015 yn 82 oed.[1][2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "DAVIES, BRYAN MARTIN (1933-2015), athro a bardd", Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 24 Hydref 2025.
  2. (Saesneg) "Obituary: Bryan Martin Davies", The Independent (18 Tachwedd 2015). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Hydref 2025.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.