Brwydr Twthil (1461)
Math | brwydr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.14°N 4.27°W ![]() |
![]() | |
- Erthygl am un o frwydrau Rhyfel y Rhosynnau yw hon; am y frwydr yn oes y Tywysog Owain Glyn Dŵr, gweler Brwydr Twthil (1401).
Un o frwydrau Rhyfel y Rhosynnau oedd Brwydr Twthil (ynganiad: 'twt' ac yna 'hil'; nid 'th'), a ymladdwyd 16 Hydref 1461 rhwng yr Iorciaid a'r Lancastriaid.
Brwydr gymharol fechan ydoedd, a ymladdwyd y tu allan i dref Caernarfon. Daeth Wiliam Herbert a byddin Iorc i Ogledd Cymru i ymlid Siasbar Tudur a oedd wedi bod yn arwain y Lancastriaid yng Nghymru ar ran ei hanner brawd, Harri VI, brenin Lloegr. Ger muriau’r dref yn Nhwthill y daeth y ddwy fyddin ynghyd. Yn dilyn y frwydr hon, ffodd Siasbar a rhai o'i swyddogion i'r Iwerddon.