Bruce Chatwin
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Bruce Chatwin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Mai 1940 ![]() Sheffield ![]() |
Bu farw | 18 Ionawr 1989 ![]() Nice ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, awdur, newyddiadurwr, teithiwr ![]() |
Arddull | nofel, Llenyddiaeth teithio ![]() |
Prif ddylanwad | Evelyn Waugh, Jerome K. Jerome, Robert Byron, Jorge Luis Borges ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr E. M. Forster, Gwobr Hawthornden ![]() |
Nofelydd ac awdur llyfrau taith o Loegr oedd Charles Bruce Chatwin (13 Mai 1940 - 18 Ionawr 1989).
Ganed Chatwin yn Sheffield, a threuliodd ei ieuenctid yn West Heath, ger Birmingham. Addysgwyd ef yng Ngholeg Marlborough. Bu'n gweithio i gwmni Sotheby's am gyfnod, cyn ymddiswyddo i astudio archaeloeg ym Mhrifysgol Caeredin. Gadawodd y brifsgol heb gymeryd gradd.
Teithiodd i Batagonia yn niwedd 1974, a threuliodd chwe mis yno, yn cynnwys ymweliad a'r Wladfa. Cyhoeddodd lyfr taith In Patagonia yn 1977. Enillodd Wobr Goffa James Tait am ei nofel On the Black Hill (1982), hanes dau frawd, Lewis a Benjamin Jones, oedd yn ffermio ar y Mynydd Du.
Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- In Patagonia (1977)
- The Viceroy of Ouidah (1980)
- On the Black Hill (1982)
- The Songlines (1987)
- Utz (1988)
- What Am I Doing Here? (1989)
- Photographs and Notebooks (1993)
- Anatomy of Restlessness (1997)
- Winding Paths (1998)