Bron yr Aur

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bron yr Aur

Bwthyn sy'n dyddio o'r 18g ac sydd wedi ei leoli yn ne Parc Cenedlaethol Eryri ger Machynlleth yw Bron yr Aur. Daeth y bwythyn yn fyd-enwog wedi i aelodau o'r band roc Saesnig Led Zeppelin dreulio amser yno yn ystod y 1970au.

Ysbrydolodd ymweliad Robert Plant a Jimmy Page â Bron yr Aur sawl cân newydd i Led Zeppelin, gan gynnwys "Over the Hills and Far Away", "The Crunge", "The Rover", "Bron-Yr-Aur", "Down by the Seaside", "Poor Tom", "Friends", "Bron-Y-Aur Stomp", "That's the Way". Cyfansoddwyd caneuon eraill yn y bwthyn hefyd, na chafodd eu rhyddhau yn swyddogol, gan gynnwys "Another Way To Wales" a "I Wanna Be Her Man".

Cyfesurynnau: 52°36′28″N 3°52′09″W / 52.60766°N 3.86920°W / 52.60766; -3.86920