Bridfa Elyrch Abbotsbury

Oddi ar Wicipedia
Bridfa Elyrch Abbotsbury
Mathnythfa adar Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDorset Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau50.6538°N 2.6029°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Bridfa Elyrch Abbotsbury ar arfordir Swydd Dorset, Lloger. Mae elyrch dof yn mynychu'r fridfa, sydd ar agor i'r cyhoedd.

Yn 2005 roedd 750 o elyrch yno, a chyfrwyd 95 o nyddod, â 5 wy ar gyrfartaledd ym mhob un.[1].Mae poblogaeth y fridfa'n dyblu ym Mehefin a Gorffennaf pan fo'r elyrch yn bwrw plu ac yn colli'r gallu i hedfan. Mae hyd yn oed mwy ohonynt yn cyrraedd ym mis Rhagfyr i fwydo ar wellt y gamlas (Saesneg: eel grass) oherwydd diffyg bwyd arall ynghanol gaeaf.[2]

Elyrch dof yn y fridfa

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Mynachlog Benedictaidd Sant Pedr yn Abbotsbury yn ystod yr 11g, a ffermiodd y mynaich yr elyrch i gynhyrchu bwyd. Dinistriwyd y fynachlog ym 1539, a daeth y fridfa'n rhan o stad Ilchester.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Daily Mail, 26 Gorffennaf 2015
  2. Gwefan wildlifeextra
  3. "Tudalen hanes ar wefan y fridfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-13. Cyrchwyd 2016-03-29.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]