Brian Wildsmith

Oddi ar Wicipedia
Brian Wildsmith
Ganwyd22 Ionawr 1930 Edit this on Wikidata
De Swydd Efrog Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 2016 Edit this on Wikidata
Grasse Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gelfyddyd Gain Slade Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, ysgrifennwr, darlunydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Kate Greenaway Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://brianwildsmith.com/ Edit this on Wikidata

Darlunydd llyfrau plant oedd Brian Wildsmith (20 Ionawr 193031 Awst 2016),[1] a enillodd Fedal Kate Greenaway ym 1962 am ei waith darlunio yn y llyfr A.B.C.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Wildsmith ym mhentref bychan Penistone yn Swydd Efrog, yng nghanol y dwiydiant glo. Enillodd ysgoloriaeth i fynychu Ysgol Celfyddydau Gain Slade ble'r astudiodd am dair mlynedd. Dysgodd gerddoriaeth yn yr Ysgol Cerdd Milwrol Brenhinol am gyfnod, ond fe roddodd y gorau ar ddysgu er mwyn gallu peintio yn llawn amser.[2][3]

Yn 1994, sefydlwyd Amgueddfa Celf Brian Wildsmith yn Izukogen, tref sydd wedi ei leoli i'r de o Tokyo, Japan. Ymwelodd miliwn a hanner o bobl â'i arddangsfa ar daith yn 2005. Mae 800 o'i baentiadau wedi cael eu benthyg i'r amgueddfa.[2]

Roedd yn briod gyda pedwar o blant, ac ers 1971 bu'n byw Ffrainc gyda'i wraig Aurélie. Bu farw yn Grasse, Ffrainc yn 2016.[4].[2]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Brian Wildsmith. IMDB.
  2. 2.0 2.1 2.2  About. Brian Wildsmith.
  3.  AUTHOR PROFILE - Brian Wildsmith. Jubilee Books.
  4. "Children's author Brian Wildsmith dies". thebookseller.com. Cyrchwyd 5 Medi 2016.