Brian Aldiss

Oddi ar Wicipedia
Brian Aldiss
FfugenwJael Cracken Edit this on Wikidata
GanwydBrian Wilson Aldiss Edit this on Wikidata
18 Awst 1925 Edit this on Wikidata
Dereham Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 2017 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Man preswylDereham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Framlingham College
  • West Buckland School Edit this on Wikidata
Galwedigaethawdur ffuglen wyddonol, nofelydd, beirniad llenyddol, ysgrifennwr, sgriptiwr, arlunydd, person milwrol, llyfrwerthwr, prif olygydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNon-Stop, Hothouse Edit this on Wikidata
Arddullgwyddonias Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadKarel Čapek, Olaf Stapledon, H. G. Wells Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Prif Wobr am Ddychymyg, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Gwobr Nebula am y Nofel Fer Orau, Pilgrim Award, Gwobr Hugo am y Gwaith Perthnasol Gorau, Gwobr Goffa John W. Campbell am y Nofel Ffuglen Wyddonol Orau, Gwobr Tähtivaeltaja, Gwobr Damon Knight, Uwch Feistr, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Gwobr y BSFA am y Nofel Orau, Gwobr Ditmar Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.brianaldiss.co.uk/ Edit this on Wikidata

Awdur a golygydd Seisnig oedd Brian Wilson Aldiss, OBE (/ˈɔːldɪs/; 18 Awst 192519 Awst 2017[1][2]), a oedd yn fwyaf adnabyddus am nofelau a straeon byrion gwyddonias. Defnyddiodd yr enw Brian W. Aldiss neu Brian Aldiss, heblaw am ambell ffugenw yn ystod canol y 1960au.

Cafodd ei ddylanwadu yn fawr gan yr arloeswr gwyddonias H. G. Wells, a roedd Aldiss yn is-lywydd Cymdeithas ryngwladol H. G. Wells. Roedd yn gyd-lywydd (gyda Harry Harrison) Grŵp Gwyddonias Birmingham. Enwyd Aldiss yn Grand Master gan Awduron Gwyddonias America yn 2000, a fe'i sefydlwyd yn Oriel Enwogion Gwyddonias yn 2004. Derbyniodd ddau Wobr Hugo, un Gwobr Nebula a un Gwobr Goffa John W. Campbell.[3] Ysgrifennodd y stori fer "Super-Toys Last All Summer Long" (1969), oedd yn sylfaen i ffilm Stephen Spielberg A.I. Artificial Intelligence a ddatblygwyd gan Stanley Kubrick. Roedd Aldiss yn gysylltiedig a'r Don Newydd Prydeinig o wyddonias.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Yn 1938, priododd Aldiss gyda Olive Fortescue, ysgrifennydd i berchennog gwerthwyr llyfrau Sanders yn Rhydychen, lle roedd wedi gweithio ers 1947.[5] Roedd ganddo ddau blentyn o'i briodas gyntaf, Clive yn 1955 a Caroline Wendy yn 1957, ond fe "methodd" y briodas yn 1959 a'i ddiddymu yn 1965.[5][6]

Yn 1965, priododd ei ail wraig, Margaret Manson, menyw Albanaidd, ysgrifennydd i olygydd yr Oxford Mail, pan oedd yn 40 a hithau yn 31.[5] Roeddent yn byw yn Rhydychen, a cafodd y cwpl ddau blentyn, Tim a Charlotte .[5][6] Bu farw Margaret yn 1997.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Aldiss, Brian (21 August 2017). "It is with great sadness we announce the death of our beloved father & grandfather. Brian died peacefully at home on his 92nd birthday ^TA". twitter.com. Cyrchwyd 21 Awst 2017.
  2. "Announcement of the dead of Brian Aldiss O.B.E." Curtis Brown. Cyrchwyd 21 Awst 2017.
  3. "Aldiss, Brian W." Archifwyd 5 August 2011 yn y Peiriant Wayback. The Locus Index to SF Awards: Index of Literary Nominees. Locus Publications. Retrieved 2013-04-02.
  4. Scholes, Robert; Rabkin, Eric S. (1977). "Bibliography I: History and Criticism of Science Fiction". Science Fiction: History, Science, Vision. London: Oxford University Press.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Brown, Andrew (15 Mehefin 2001). "Master of the universes: Brian Aldiss". Cyrchwyd 21 Awst 2017 – drwy The Guardian.
  6. 6.0 6.1 "HOW WE MET: BRIAN ALDISS AND ANTHONY STORR". independent.co.uk. 22 Hydref 1995. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-21. Cyrchwyd 21 Awst 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]