Boys Don't Cry (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Boys Don't Cry

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Kimberly Peirce
Cynhyrchydd Christine Vachon
Eva Kolodner
Ysgrifennwr Kimberly Peirce
Andy Bienen
Serennu Hilary Swank
Chloë Sevigny
Peter Sarsgaard
Brendan Sexton III
Cerddoriaeth Nathan Larson
Sinematograffeg Jim Denault
Golygydd Tracy Granger
Dylunio
Cwmni cynhyrchu IFC Films
Fox Searchlight Pictures
Dyddiad rhyddhau 22 Hydref, 1999
Amser rhedeg 118 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol

Mae Boys Don't Cry (1999) yn ffilm ddrama annibynnol sy'n seiliedig ar hanes bywyd Brandon Teena, dyn trawsrywiol a dreisiwyd ac a lofruddiwyd ar y 31ain o Ragfyr, 1993 wedi i'w gyfeillion gwrywaidd ddarganfod fod ganddo organau rhywiol benywaidd. Mae'r ffilm yn serennu Hilary Swank fel Brandon Teena a Chloë Sevigny fel cariad Brandon Lana Tisdel.

Derbyniodd Boys Don’t Cry, ac yn benodol perfformiadau Swank a Sevigny ymateb hynod gadarnhaol gan y beirniaid ffilm, yn enwedig o ystyried fod y ffilm wedi cael ei gwneud ar gyllid cymharol fychan. Serch hynny, bu'r ffilm yn llwyddiant masnachol, ac enillodd Swank Wobr yr Academi am yr Actores Orau am yr Actores Orau ac enwebwyd Sevigny am Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau.

Lleolir y ffilm yn Lincoln, Nebraska ac yn Ninas Falls, Nebraska, ond cafodd ei ffilmio'n bennaf yng Greenville, Texas, tref fechan tua 45 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Dallas. Rhyddhawyd y ffilm ar yr un pryd â marwolaeth dyn hoyw ifanc, Matthew Shepard, ac arweiniodd hyn at fwy o ddiddordeb yn y ffilm.

Cast[golygu | golygu cod]

Trac Sain[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd y trac sain ar yr 11eg o Dachwedd, 199 gan Koch Records.

  1. The Bluest Eyes in Texas - Nina Person / Nathan Larson
  2. A New Shade of Blue - The Bobby Fuller Four
  3. She's Got a Way - The Smithereens
  4. Who's That Lady? - The Isley Brothers
  5. Codine Blues - The Charlatans
  6. Silver Wings - The Knitters
  7. Who Do You Love - Quicksilver Messenger Service
  8. Tuesday's Gone - Lynyrd Skynyrd
  9. Haunt - Roky Erickson
  10. Dustless Highway - Nathan Larson
  11. What's Up With That? - The Dictators
  12. Why Can't We Live Together? - Timmy Thomas