Boncyff Nadolig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darluniad o halio'r boncyff Nadolig yng nghanol y 19eg ganrif.

Boncyff a losgir ar Noswyl Nadolig fel traddodiad yng ngogledd Ewrop yw'r boncyff Nadolig neu'r cyff Nadolig,[1] neu ynghynt y Blocyn Gwyliau.[2]

Tarddodd yr arfer yn yr hen wledydd Germanaidd, fel rhan bwysig o ŵyl yr Yule i nodi heulsafiad y gaeaf. Câi'r boncyff mwyaf ei lusgo i'r llanerch neu gyrion y coedwig, ac ymgynnulla'r gymuned o gwmpas y tân ar gyfer gwledd.[3] Hon oedd noson hiraf y flwyddyn, felly dewisid boncyff mawr i gael mwy o olau a gwres, a chynhelid gwledd i ddathlu bod y gwanwyn yn nesáu. Yn sgil dyfodiad Cristnogaeth i ogledd Ewrop, cafodd yr Yule a'i draddodiadau, gan gynnwys llosgi'r boncyff, eu hailddehongli'n rhan o wyliau'r Nadolig. Dros amser, datblygodd draddodiadau ac enwau lleol ar y boncyff wrth i'r arfer barhau yng Ngwledydd Prydain, yr Almaen a Llychlyn. Yn gyffredinol, daeth llosgi'r boncyff yn achlysur i'r teulu ar yr aelwyd yn hytrach na'r holl gymuned. Arferid cadw'r boncyff yn llosgi yn y lle tân hyd Nos Ystwyll. Yng nghefn gwlad Cymru, cafodd lludw'r boncyff ei gasglu ar ddiwedd adeg y Nadolig a'i roi ar y cae er mwyn sicrhau cynhaeaf ffrwythlon i ddod.[4]

Mae'n debyg bod y boncyff Nadolig ar drengi, gan fod mwy a mwy o Ewropeaid yn cael gwared â'r lle tân o'r tŷ. Goroesir delw'r boncyff gan deisen y boncyff Nadolig, rhôl sbwnj siocled a gaiff ei haddurno gyda siwgr eisin i edrych yn debyg i foncyff yn yr eira.

Ceir defodau Nadoligaidd tebyg yng ngwledydd y Balcanau, Festa del Ceppo (Gŵyl y Boncyff) ym mryniau Tysgani, a thraddodiad yng Nghatalwnia o roi boncyff mewn blanced a'i drin fel baban.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, [Yule: Yule log].
  2.  blocyn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  3. Nadolig: Peth o hanes y traddodiadau (y wefan gwasanaethau). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.
  4. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs (Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1978), t. 48.