Nos Ystwyll

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun c. 1850 gan Ainsworth o ddathliadau Nos Ystwyll

Nos Yswyllt yw'r 5ed neu'r 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig - a diwedd yr ŵyl. Yn ôl traddodiad, dylid tynnu trimins neu addurniadau'r Nadolig i lawr erbyn y diwrnod hwn. Cysylltir hefyd nifer o draddodiadau eraill gyda'r diwrnod gan gynnwys Hela'r Dryw Bach a'r Fari Lwyd.[1]

Mae dyddiad Gŵyl y Nadolig yn ymwneud ag Alban Arthan a heuldro'r gaeaf (21ain neu 22ain Rhagfyr). Roedd traddodiad cyn-Gristnogol Gogledd Ewrop o ddathlu geni'r Haul ar 25 Rhagfyr yn wahanol i draddodiad gwledydd Môr y Canoldir a'r Dwyrain, a osodai heuldro'r gaeaf ar 6 Ionawr, sef Nos Ystwyll. Daeth y ddau ddyddiad i fod yn ddechrau a diwedd yr un dathliad. Mabwysiadodd eglwys y gorllewin "ddeuddeg diwrnod y Nadolig" a'u huchafbwynt ar Nos Ystwyll. Erbyn y 5g, credwyd mai dyma'r nos y cyrhaeddodd y Doethion Bethlehem. Pan fabwysiadodd y Gorllewin Galendr Gregori yn lle'r Calendr Iwliaidd daeth rhagor o ddryswch ynghylch diwedd y Nadolig, a gwrthododd yr eglwys ddwyreiniol y newid. Mae Nos Ystwyll, felly'n parhau i fod yn brif ddiwrnod dathlu'r Ymgnawdoliad mewn Eglwysi Uniongred.[2]

Ceir drama-gomedi o'r un enw gan William Shakespeare (Twelfth night).

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg mai 'seren' (neu'r Lladin stellā + 'gŵyl') yw tarddiad y gair,[3] sy'n cryfhau'r syniad i'r seren ymddangos i'r Doethion ar y dydd hwn h.y. 'seren-ŵyl'. Mae'n ymddangos yn gyntaf yn y Gymraeg yng ngwaith Meilyr Brydydd yn y 12g: "Ystwyll ystyryws Dews defnyt..." Yn yr eglwys, weithiau defnyddir y gair 'epiffani' sy'n tarddu o'r Groeg ἐπιφάνεια neu "epiphaneia" (ymddangosiad duwiol).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]