Ffagod onennaidd

Oddi ar Wicipedia
Ffagod onennaidd
Enghraifft o'r canlynoltraddodiad Nadoligaidd Edit this on Wikidata

Traddodiad Nadoligaidd o Dde-orllewin Lloegr, siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf yn bennaf, yw'r ffagod onennaidd. Câi swp o frigau onnen wedi'u clymu'n ffagod gyda stribedi o risgl collen, gwiail helyg, neu lwyni mieri, ei ddwyn i mewn i'r tŷ a'i losgi yn y lle tân ar Noswyl Nadolig. Cafwyd y cofnod cyntaf o'r ffagod onennaidd yn nechrau'r 19g.[1] Mae nifer o dai a thafarnau yn Nyfnaint a Gwlad yr Haf yn parhau â'r traddodiad. Mae'n debyg i'r arfer o baratoi boncyff Nadolig, ac mae'n perthyn i draddodiad Brythonig y wasael.

Bu nifer o gredoau ac arferion yn perthyn i'r stribedi a ddefnyddid i glymu'r ffagod onennaidd. Yn ôl un cofnod o Torquay o 1836, byddai gweithwyr y fferm yn mynnu rhagor o seidr oddi wrth y ffermwr bob tro y byddai un o'r stribedi'n llosgi'n ulw, a byddai plant y teulu'n dewis stribed yr un, a'r un a losgai'n ulw'n gyntaf a fyddai'n priodi'n gyntaf.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Jacqueline Simpson a Steve Roud, A Dictionary of English Folklore (Rhydychen: Oxford University Press, 2000), t. 11.