Blönduós
Math | dinas, former municipality of Iceland |
---|---|
Poblogaeth | 928 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Norðurland vestra |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 183 km² |
Cyfesurynnau | 65.67°N 20.3°W |
Cod post | 540 |
IS-BLO | |
Mae Blönduós neu Blönduósbær yn dref a bwrdeisdref yng ngogledd Gwlad yr Iâ. Gorwedda yn Rhanbarth y Gogledd Orllewin, Norðurland vestra. Ystyr y gair 'Blönduós' yw aber yr afon Blanda - yn Islandeg ystyr ós yw 'aber' a blanda, yw 'cymysgedd'. Mae'n un o drefi twristiaeth prysuraf Gwlad yr Iâ. Ei phoblogaeth yw 865 ac mae ei thiriogaeth yn 182 km sgwâr.
Fel sawl tref a phentref ar yr ynys, ni ddatblygodd Blönduós yn bentref nes yn hwyr yn y 19g. Mae yna rai hen dai yn y pentref ond ceir clwster o dai o ddechrau'r 20g ar ochr ddeheuol yr afon.[1] Does gan Blönduós ddim harbwr dda a phrif rôl yr annedd yw fel canolfan llaeth i'r ffermydd lleol.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Lleolir Blönduós ar Ffordd Rhif 1, neu'r Hringvegur y gylchffordd sy'n teithio o amgylch Gwlad yr Iâ. Sair y dref ar aber yr afon rhewlifol, Blanda. Enwir y pentref ar ôl yr afon, (Blöndu yw'r 'oblique case' o Blandais). Ar y bryn uwchben y dref saif eglwys sydd â phensaerniaeth drawiadol sydd fod i adlewyrchu crater llosgfynydd.
Mae gan Blönduós hinsawdd 'tundra'.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y lle presennol yn ei rhan orllewinol ar dir y ffermydd Hjaltabakka a Hnjúka, yn ei dwyreiniol ar fferm Ennis.
1875 a 1876, cafodd y dref yr hawl swyddogol fel dref fasnachol a phorthladd. Tyfodd yr anheddiad i ddechrau o gwmpas tŷ masnachu Thomas J. Thomsen, o Bergen yn Norwy a'i deulu, ond cafodd ei losgi i lawr ym 1914.
Arweiniodd gwelliant sylweddol yn y cysylltiadau allanol â Blönduós drwy adeiladu pont dur dros y Blanda ym 1897, a ddisodlwyd yn 1963 gan y bont concrid ]press stressed' gyntaf.
Ym 1976, codwyd cofeb er cof am y masnachwr.[2]
Hyd 1914, roedd y dref yn rhan o gymuned wledig Torfalækjarhreppur ac yna daeth yn gymuned wledig ar wahân (Isl Blönduóshreppur). 1988 Derbyniodd Blönduós y statws "kaupstaður", hynny yw, bwrdeisdref annibynnol (isl. Blönduoskaupstaður). Ym mis Mehefin 2002, unodd y gymuned wledig Engihlíðarhreppur â Blönduós.[2]
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Fel sy'n gyffredin ar draw Gwlad yr Iâ (heblaw am y de orllewin o gwmpas y brifddinas, Reykjavík gostwng yw hanes poblogaeth Blönduós yn gostwng (1997 i 2006: -14.5%), er y bu cynnydd bychan iawn iawn yn 2007.
Dyddiad | Poblogaeth |
---|---|
1 Rhagfyr 1997: | 1.043 |
1 Rhag. 2003: | 958 |
1 Rhag. 2004: | 917 |
1 Rhag. 2005: | 903 |
1 Rhag. 2006: | 892 |
1 Rhag. 2007: | 895 |
Gefailldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""Hit Iceland information page about Iceland"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-24. Cyrchwyd 2018-04-18.
- ↑ 2.0 2.1 T. Einarsson, H. Magnússon (Hrsg.): Íslandshandbókin. Náttúra, saga og sérkenni. Teil 1. Örn og Örlygur, Reykjavík 1989, S. 344.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Off. Gwefan Swyddogol Blönduós (Islandeg)
- www.blonduos.com (Saesneg)
- Gwefan Twristaidd yn Almaeneg Archifwyd 2018-04-20 yn y Peiriant Wayback
- Off. Gwefan bysgota Archifwyd 2018-03-16 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)