Blanche (locomotif)
Enghraifft o'r canlynol | narrow gauge locomotive |
---|---|
Rhan o | Locomotifau'r Dosbarth Prif Lein Penrhyn |
Perchennog | Rheilffordd Ffestiniog |
Gwneuthurwr | Cwmni Hunslet |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Gwynedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Blanche yn locomotif tanc cyfrwy 2-4-0, yn gweithio ar Reilffordd Ffestiniog.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y locomotive, yn wreiddiol gyda threfniant olwynion 0-4-0, gan Gwmni Hunslet ym 1893 ar gyfer Rheilffordd Chwarel Penrhyn. Costiodd £800, un o dri locomotif gyda Linda a Charles. Enwyd y locomotif ar ôl Blanche Georgina Fitzroy, gwraig Barwn Penrhyn. Cafodd bocs tân newydd ym 1920 a boeler newydd ym 1925. Cafodd boeler arall (oddi wrth ‘Linda’) a bocs tân newydd ym 1939. Cafodd tanc newydd ym Medi 1949 a boeler arall ym 1956. Tynnodd y trên olaf ar brif lein y chwarel ar 27 Gorffennaf 1962. Prynwyd Blanche gan Reilffordd Ffestiniog am £2000 ym 1963, a chyrhaeddodd y rheilffordd ar 17 Rhagfyr. Gwnaethpwyd sawl newid i’r locomotif gan gynnwys addasiad i’r olwynion i ffitio lled y trac, modfedd ehangach nac yn Chwarel Penrhyn. Estynnwyd cab y locomotif ac ei beintiwyd yn wyrdd ym 1965. Cafodd Blanche bocs tân newydd, ac addaswyd y locomotif i ddefnyddio olew ym 1971. Ailadeiladwyd y locomotif i fod yn locomotif tanc cyfrwy 2-4-0 efo tendar. Atgyweiriwyd Blanche ym 1983 a 1988, gan gynnwys tanc cyfrwy newydd ym 1988. Gweithiodd Blanche ar Reilffordd Eryri rhwng Dinas a Chaernarfon ym 1999. Roedd angen gwaith ar y boeler yn 2003, ond roedd rhaid codi pres. Daeth y locomotif yn ôl at ei waith ym Mai 2005. Ailbeintiwyd o yn 2011. Daeth ei dystysgrif boeler i ben eto yn 2016. Newidiwyd pâr o olwynion hefyd, ac ailadeiladwyd y locomotif erbyn Tachwedd 2016.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan ricketrescue: "Ricket" yw llysenw’r locomotif.
- Gwefan Rheilffordd Lido Ruislip Mae gan y rheilffordd (lled 12”) locomotif seiliedig ar Blanche.