Linda (locomotif)
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | Locomotifau'r Dosbarth Prif Lein Penrhyn ![]() |
---|---|
Gwneuthurwr | Cwmni Hunslet ![]() |
![]() |
Mae Linda yn locomotif Cledrau cul 2-4-0 tanc cyfrwy sy’n gweithio ar Reilffordd Ffestiniog ers yr 1960au.
Hanes[golygu | golygu cod]
Adeiladwyd Linda fel locomotif 0-4-0 gan Gwmni Hunslet ym 1893 ar gyfer Chwarel Penrhyn, yn costio £800. Mae enw’r locomotif yn dod o Linda Blanche Douglas-Pennant. Llys-enw’r 2 locomotif Linda a Blanche ar Reilffordd Ffestiniog yw ‘The ladies’. Cafodd Linda bocs tân newydd ym 1905 ac un arall ym 1921. Cafodd boeler newydd ym mis Ebrill 1936. Roedd y locomotif mewn storfa rhwng 24 Awst 1940 a 18 Mai 1950. Cafodd tanc newydd yn Ionawr 1951. Gorffennodd ei yrfa yn y chwarel ar 11 Gorffennaf 1962.[1] Cynigwyd Linda i Reilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Talyllyn am £1500, ond gwrthodwyd y cynnig. Llogwyd Linda am £50 yr wythnos, a chyrhaeddodd y locomotif Minffordd ar 14 Gorffennaf 1962[2]. Addaswyd Linda i ffitio traciau’r Ffestiniog cyn dechrau’r tymor 1963 a ffitiwyd breciau wactod. Ychwanwgwyd Tra-phoethi gan gwmni Hunslet ym 1969 ac ailadeiladwyd y locomotif ym 1970, yn locomotif 2-4-0ST. Ym mis Hydref newidiwyd y locomotif i ddefnyddio olew[3]. Newidiwyd y locomotif i ddefnydd glo ym 1985[4][5], ac yn ôl i olew ym 1986. Cafodd y locomotif atgyweiriad mawr ym 1990-91, gan gynnwys cab newydd. Peintiwyd Linda yn ddu yn ystod atgyweiriad arall ym 1995-96. Gweithiodd Linda ar Reilffordd Eryri rhwng 24 a 30 Mai 2003. Roedd Linda mewn storfa am sbel, ond atgyweiryd erbyn 2011, a daeth yn ôl i’w waith ar 26 Ebrill 2011. Aeth Linda i Reilffordd Ysgubor Statfold yn Swydd Stafford. Ailbeintiwyd y locomotif yn wyrdd yng Ngorffennaf 2011. Newidiwyd y locomotif i ddefnydd glo ym mis Awst 2013. Mae’r tocyn boeler yn dod i ben yn 2021 a bydd angen gwaith arall.[6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Thomas, Cliff S (2001). Quarry Hunslets of North Wales: The Great (Little) Survivors. Usk: Gwasg Oakwood. ISBN 0-853615-75-6. OCLC 48194491
- ↑ Gwefan walesonline
- ↑ Gwefan martynbane.co.uk
- ↑ Gwefan martynbane.co.uk
- ↑ Gwefan martynbane.co.uk
- ↑ Gwefan Festipedia