Locomotifau'r Dosbarth Prif Lein Penrhyn
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b1/Blanche01LB.jpg/260px-Blanche01LB.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/Linda01LB.jpg/260px-Linda01LB.jpg)
Roedd Dosbarth Prif Lein Penrhyn yn grwp o dri locomotif adeiladwyd gan Gwmni Hunslet ar gyfer Rheilffordd Chwarel Penrhyn rhwng 1882 a 1893 a dyfnyddiwyd ar y rheilffordd rhwng Chwarel Penrhyn a Felinheli.[1]
Rheilffordd Chwarel Penrhyn[golygu | golygu cod]
Defnyddiwyd locomotifau De Winton o 1879 ymlaen, gyda boelers unionsyth, ond nad oeddent yn ddigon pwerus i symud llechi. Felly archebwyd locomotif o Gwmni Hunslet ym 1882. ‘Charles’ oedd enw’r locomotif cyntaf. Cyrhaeddodd 2 locomotif arall i’r un cynllun, ond tipyn bach yn fwy, gyda’r enwau ‘Linda’ a ‘Blanche’. Ni adeiladwyd locomotifau eraill o’r un dosbarth.[2]
Cadwriaeth[golygu | golygu cod]
Goroesodd y tri ohonynt. Aeth ‘Charles’ i Amgueddfa Rheilffordd Castell Penrhyn. Aeth ‘Linda’ i Reilffordd Ffestiniog ar fenthyg yng Ngorffennaf 1963 a phrynwyd, gyda ‘Blanche’ ar gyfer tymor 1963.