Betty Paoli

Oddi ar Wicipedia
Betty Paoli
GanwydBarbara Elisabeth Glück Edit this on Wikidata
30 Rhagfyr 1814 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw5 Gorffennaf 1894 Edit this on Wikidata
Baden bei Wien Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstria Awstria
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd Edit this on Wikidata

Awdures o Awstria-Hwngari oedd Betty Paoli (30 Rhagfyr 1814 - 5 Gorffennaf 1894) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur, bardd, cyfieithydd a newyddiadurwr.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Barbara 'Babette' Glück yn Fienna, Awstria i Theresia Glück a oedd newydd briodi meddyg militaraidd yn y rhengoedd uwch o'r enw Glück. Roedd tad naturiol Barbara yn fonheddwr Hwngaraidd amlwg. Daeth Theresia i fod yn wraig weddw yn fuan iawn ac fe'i gadawyd gydag etifeddiaeth gweddol fach - etifeddiaeth a ddiflannodd yn bur sydyn. Symudodd y fam a'r ferch i sawl lle oherwydd tueddiadau chwit-chwat Theresia. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn ferch ifanc gan ddewis y soned fel ffurf fwyaf cyffredin i fynegi ei hun. Dywedai mai barddoniaeth oedd yr unig beth oedd yn adfer ei gobaith a'i fod yn rhoi dewrder iddi barhau i fyw.[1]

Addysg a Gyrfa[golygu | golygu cod]

Addysgu ei hun wnaeth Babette i bob pwrpas a daeth yn ddarllenwr brwd. Gadawodd ei mam hi yn Hwngari gyda theulu gramadegwr o'r enw Schmidt, a fu'n ei thiwtora mewn ieithoedd modern. Daeth yn hyddysg yn Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Yma y penderfynodd y byddai'n ennill ei bywoliaeth ei hun. Gweithiodd Babette fel gwniadwraig er mwyn ei chadw hi a'i mam hyd nes iddi dderbyn swydd fel athrawes gartref ar draws y ffin yng Ngwlad Pwyl Rwsaidd. Yn 1830 neu 1831 gadawodd Fienna gyda'i mam. Ond roedd ar Theresia hiraeth am ei chartref ac yn y diwedd penderfynasant ddychwelyd gan groesi'r ffin i Galisia Awstraidd. Cafodd Theresia ei tharo'n wael ar y daith a bu farw mewn pentref Galisaidd. Arhosodd Babette Glück yn Galisia nes yr oedd yn 20, gan weithio i lenwi'r bylchau yn ei haddysg. Astudiodd Saesneg ac ymgyfarwyddodd gyda gweithiau yr Arglwydd Byron. Dychwelodd i Fienna yng ngwanwyn 1935 lle dechreuodd gyfansoddi o ddifri. Yn 1949 ymgymerodd â swydd dros dro fel cydymdeithes i Iarlles Bünau yn Daln ger Dresden. Yn ystod y cyfnod hwn bu ar ymweliad tri mis â Ffrainc lle bu'n gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun ar gyfer y Neue Free Presse er mwyn cynnal ei hun. Yn dilyn hyn, fe'i cyflogwyd hi gan Madame Bagréef-Speranski fel cydymdeithes. Ar yr un pryd, daeth yn adolygydd theatr ar gyfer yr Hofberg, gan adolygu arddangosiadau celf misol. Parhaodd i fod yn adolygydd celf a theatr nes 1860, a bu hefyd yn gyfrifol am ddylanwadu ar yrfaoedd actorion megis Josef Lewinsky.

Yn ystod yr 1830au roedd ei cherddi yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion cymdeithasol. Mabwysiadodd y ffugenw llenyddol 'Paoli' yn wreiddiol ar gyfer cyhoeddi'r stori fer 'Clary ' yn Wiener Zeitschrift gan Friedeich Witthauer. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau rhwng yr 1840au a throad y ganrif gyda nifer o'i gweithiau yn canolbwyntio ar faterion merched; ysgrifennodd draethodau am ei phrofiodau hi o gasineb tuag at ferched er mwyn dadansoddi materion cymdeithasol ehangach. Cyfansoddoai gerddi yn ogystal lle byddai'n gwyrdroi metafforau oedd yn benodol yn perthyn i un rhyw. Canmolwyd ei barddoniaeth yn fawr gan Alfred Meissner a Moritz Hartmann. Yn ddiwerddarach, mabwysiadodd ffugenw arall - Branitz - a ddefnyddid ganddi er mwyn cyfieithu dramâu o Ffrangeg. Yn 1855 symudodd i fyw gyda Ida von Fleischl-Marxow; roedd y teulu Fleischl yn agos iawn ati ac fe'i mabwysiadwyd yn rhan o'r teulu. Parhaodd i fyw gyda hwy nes ei marwolaeth yn 1894.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Haag, John. "Paoli, Betty (1814–1894) – Dictionary definition of Paoli, Betty (1814–1894) | Encyclopedia.com: FREE online dictionary". www.encyclopedia.com (yn Saesneg). encyclopedia.com. Cyrchwyd 3 Awst 2017.
  2. Rose, Ferrel (1998). Major Figures of Nineteenth-Century Austrian Literature: Betty Paoli. Riverside, California: Ariadne Press.