Bettie Page
Bettie Page | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Bettie Mae Page ![]() 22 Ebrill 1923 ![]() Nashville, Tennessee ![]() |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2008 ![]() Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Playmate, model hanner noeth, model ![]() |
Taldra | 166 centimetr ![]() |
Pwysau | 58 cilogram ![]() |
Gwobr/au | Playboy Playmate of the Month ![]() |
Gwefan | https://www.bettiepage.com ![]() |
Roedd Bettie Page (22 Ebrill 1923 – 11 Rhagfyr 2008) yn fodel Americanaidd a ddaeth yn enwog yn ystod y 1950au am ei modeli ffetis a'i lluniau pinyp. Dylanwadodd ei phryd a'i gwedd, gwallt du fel y fagddu a'i rhimyn o wallt ar nifer o artistiaid eraill.
Roedd Bettie Page hefyd yn un o'r Playmates y Mis cynharaf ar gyfer cylchgrawn Playboy. Dywedodd sefydlwr Playboy, Hugh Hefner "Credaf ei bod yn wraig rhyfeddol, yn ffigwr eiconig yn niwylliant pop a ddylanwadodd ar rywioldeb, chwaeth ym myd ffasiwn, rhywun a gafodd ddylanwad aruthrol ar ein cymdeithas."[1]
Yn ystod ail hanner ei bywyd, dioddefodd o iselder, tymer treisgar a sawl blwyddyn mewn ysbyty meddwl.[2] Yn ystod y 1960au trodd at Gristnogaeth a gweithiodd fel cenhadwr y Bedyddwyr yn Angola. Ar ôl blynyddoedd o fywyd cymharol di-nod, ail-gynnwyd ei phoblogrwydd yn y 1980au ac mae ganddi genfogaeth gwlt sylweddol.
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Gwefan Swyddogol Bettie Page
- (Saesneg) Who Is the Real Bettie Page? Archifwyd 2009-04-15 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) A Golden Age for a Pinup
- (Saesneg) thebettiepage.com - Cyflwyniad i Bettie Page
- (Saesneg) Lluniau Bettie Archifwyd 2009-04-13 yn y Peiriant Wayback.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Bettie Page dies at 85 / Pin-up queen was a pop culture phenomenon". Variety. 11 Rhagfyr, 2008. Adalwyd 27 Chwefror, 2009.
- ↑ "Pinup queen Bettie Page dead at 85". Los Angeles Times. 2008-12-11. Adalwyd 2008-12-11.