Bethan Marlow

Oddi ar Wicipedia
Bethan Marlow
Ganwyd2000 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures Gymreig yw Bethan Marlow. Mae'n adnabyddus am y gyfrol Sgint a gyhoeddwyd 11 Mehefin, 2012 gan: Sherman Cymru.[1]

Mae'n enedigol o Ogledd Cymru ond yn byw bellach yng Nghaerdydd gyda'i gwraig a dau o blant.

Ymhlith ei chomisiynau y mae Afiach- Nyrsus, drama ferbatim i Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Bethan hefyd wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol i archwilio'r potensial i "gynulleidfa yn cyd-greu theatr". Dywedodd Cris Dafis amdani: "...yn rhoi llais i bobol â phrofiadau nad ydyn ni'n aml yn eu gweld ar lwyfannau Cymru.”.(Golwg) [2]

Addysg a gwaith
Hyfforddwyd Bethan yn actores yn Academi Webber Douglas cyn iddi gael ei hysbrydoli i sgwennu dramau. Gweithiodd ar y cyfandir cyn dychwelyd i Gymru. Storiau pobl gyffredin yw ei phrif ysbrydoliaeth: eu teithiau, eu profiadau a'u gwaith. Mae'n arbenigo mewn gweithio gyda phobl gyffredin o fewn eu cymunedau. Gweithiodd gyda'r gymuned LGBT yn Abertawe ar “A Queer Christmas”, Mess Up The Mess a gyda chymuned tai cyngor yng Ngogledd Cymru - ar ddrama o'r enw “C’laen ta!” (Theatr Genedlaethol Cymru). Efallai mai “Sgint” (Theatr Genedlaethol Cymru) yw'r ddrama fwyaf nodedig mae wedi'i sgwennu. Ceisia wthio'r ffiniau ar nifer o lwyfanau gwahanol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Sgint (Sherman Cymru, 2012)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
  2. 1. Gwefan www.bethanmarlow.com
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.