Beàrnaraigh

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Berneray)
Beàrnaraigh
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth138 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd1,000 ha Edit this on Wikidata
GerllawGogledd Cefnfor yr Iwerydd, Inner Seas off the West Coast of Scotland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.7194°N 7.1864°W Edit this on Wikidata
Map

Un o ynysoedd llai Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Beàrnaraigh neu Bearnaraigh (Saesneg: Berneray). Saif ychydig i'r gogledd o ynys Uibhist a Tuath.

Lleoliad Beàrnaraidh

Adeiladwyd cob ar draws culfor Caolas Bheàrnaraigh, sy'n gwahanu Beàrnaraidh ac Uibhist a Tuath. Y pwynt uchaf ar yr ynys yw Beinn Shleibhe, 93 medr uwch lefel y môr. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 130. Mae gan yr ynys swyddfa’r post, siop, neuadd y gymuned a chaffi ym mhentref Backhill, ac mae clwb rhwyfo a cymdeithas hanesyddol.[1][2] Mae gwasanaeth fferi Calmac o’r cob i An Tòb ar Na Hearadh.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]