Benjamin Williams (Gwynionydd)
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Benjamin Williams)
Benjamin Williams | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mehefin 1821 ![]() Penbryn ![]() |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1891 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd, ysgrifennwr ![]() |
Offeiriad Anglicanaidd ac awdur o Gymru oedd y Parchedig Benjamin Williams (Gwynionydd) (24 Mehefin 1821—7 Rhagfyr 1891). Fe'i ganwyd ym Mhenbryn, Ceredigion. Gwasanaethodd fel ciwrad Troedyraur a Thirabad a bu'n rheithor yn Llanofer. Ymysg ei weithiau llenyddol mae:
- Lewis Glyn Cothi (1866)
- Caniadau (1867),
- Enwogion Ceredigion (1869)
- Briallen Glan Ceri (1873)
Bu hefyd yn ysgrifennu erthyglau i Archaeologia Cambrensis, Yr Haul a'r Brython.