Beatriz Galindo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Beatriz Galindo
Beatriz Galindo.jpg
Ffugenw la Latina Edit this on Wikidata
Ganwyd c. 1465 Edit this on Wikidata
Salamanca Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Tachwedd 1534 Edit this on Wikidata (69 oed)
Madrid Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Sbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Salamanca Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, Meddyg Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Salamanca Edit this on Wikidata
Priod Francisco Ramírez de Madrid Edit this on Wikidata

Ysgolhaig a bardd Sbaenaidd yn ystod y Dadeni Dysg oedd Beatriz Galindo (146523 Tachwedd 1534) sy'n nodedig am fod yn y fenyw gyntaf yn hanes i gael ei phenodi yn athrawes prifysgol, a hynny ym Mhrifysgol Salamanca.

Ganwyd yn Salamanca, Coron Castilia. Dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn Lladin dan diwtor, ond roedd ei rhieni yn bwriadu ei danfon i leiandy. Clywodd y Frenhines Isabel am ddoniau'r ferch o Salamanca, a chafodd Beatriz ei galw i'r llys brenhinol i roi gwersi Lladin i'r Dywysoges Juana.[1]

Sefydlwyd ysbytyi'r tlawd ym Madrid gan Galindo. Ym Mhrifysgol Salamanca, darlithiodd ar bynciau rhethreg, athroniaeth, a meddygaeth. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ladin ac hefyd sylwebaeth ar weithiau Aristoteles.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Tom Streissguth, The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), tt. 138–39.