Neidio i'r cynnwys

Beatrice Harraden

Oddi ar Wicipedia
Beatrice Harraden
Ganwyd24 Ionawr 1864 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mai 1936 Edit this on Wikidata
Barton on Sea Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Coleg y Merched, Cheltenham
  • Queen's College, Llundain
  • Coleg Bedford Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd dros bleidlais i ferched, llenor, ymgyrchydd dros hawliau merched, nofelydd, swffragét Edit this on Wikidata
Adnabyddus amShips That Pass in the Night Edit this on Wikidata
llofnod

Ffeminist o Loegr oedd Beatrice Harraden (24 Ionawr 1864 - 5 Mai 1936) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, nofelydd a swffragét. Yn 1883, derbyniodd BA a gradd anrhydeddus yn y Clasuron ac mewn mathemateg - tipyn o gamp i ferch yn yr oes honno! Roedd yn un o arweinyddion y fudiad y swffragetiaid ac yn sefydlydd y Women’s Social and Political Union (WSPU), yn ogystal â bod yn aelod allweddol o'r Women Writers' Suffrage League a'r Women’s Tax Resistance League. Mae cymeriadau benywaidd ei ffuglen yn gryf, yn annibynnol, ac yn hynod ddeallus ac eto maent yn parhau i fod yn llawn cydymdeimlad; nid yw ei harwresau yn ofni mynegi emosiynau a ystyriwyd yn “fenywaidd” neu'n endid yr adeg honno.

Fe'i ganed yn Hampstead,Llundain ar 24 Ionawr 1864 i Samuel Harraden a Rosalie Lindstedt Harraden; bu farw yn Barton on Sea. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg y Merched, Cheltenham,Queen's College, Llundain a Choleg Bedford.[1][2][3][4]

Cyhoeddodd ei gwaith yn y papur papurau ffeministiaid a theithiodd yn helaeth yn Ewrop ac Unol Daleithiau America fel aelod o fudiad y menywod. Treuliodd Harraden sawl gwyliau haf yn lletya yn The Green Dragon Inn yn Little Stretton, Swydd Amwythig gan gerdded ac ysgrifennu dydd ar ôl dydd. Arweiniodd ei hatgofion o hyn a'i lletywr, Mrs Benbow, hi i ysgrifennu stori fer, At the Green Dragon, a gyhoeddwyd yn 1894.

Ymhlith y gwaith nodedig eraill a ysgrifennodd y mae: Little Rosebud: Or, Things Will Take a Turn (1891) a Ships That Pass in the Night a werthodd dros filiwn o gopiau.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]


Llyfryddiaeth dethol

[golygu | golygu cod]
  • Ships That Pass in the Night (1893) [1]
  • In Varying Moods (short stories, 1894)
  • Hilda Stafford and The Remittance Man (Two Californian Stories) (1897)
  • The Fowler (1899)
  • The Scholar's Daughter (1906)
  • Interplay (1908)
  • Lady Geraldine's Speech (1909)
  • Out of the Wreck I Rise (1914)
  • The Guiding Thread (1916)
  • Patuffa (1923)
  • Rachel (1926)
  • Search Will Find It Out (1928)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: https://en.wikipedia.org/wiki/Beatrice_Harraden.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index8.html.
  3. Dyddiad geni: "Beatrice Harraden". ffeil awdurdod y BnF.
  4. Dyddiad marw: "Beatrice Harraden". ffeil awdurdod y BnF.