Beatrice Green

Oddi ar Wicipedia
Beatrice Green
Ganwyd1 Hydref 1894 Edit this on Wikidata
Abertyleri Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1927 Edit this on Wikidata
Aber-bîg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Sir Abertillery Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, athro, areithydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Beatrice Green (ganwyd Dykes; 1 Hydref 189419 Hydref 1927) yn ymgyrchydd llafur Cymreig. Roedd hi'n ffigwr allweddol yn y streic gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a’r cloi allan o’r glowyr. Areithiwr ac yn llenor oedd hi, a ddaeth yn arweinydd ym mudiad llafur De Cymru.

Cafodd Green ei geni yn Abertyleri, sir Fynwy, yn ferch i William a Mary Dykes; roedd William yn gweithiwr alcam a glöwr.[1] Lladdwyd un o'i brodyr mewn damwain lofaol yn 1910. Astudiodd hi yn Ysgol Ramadeg Abertyleri, ac wedyn daeth hi'n athrawes. Bu'n weithgar yn yr ysgol Sul yn Eglwys y Bedyddwyr yn Ebeneser, a bu'n aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur yn sir Fynwy. Ar 22 Ebrill 1916, priododd â’r glöwr Ronald Emlyn Green, a fe’i gorfodwyd allan o’i swydd oherwydd bar priodas y Deyrnas Unedig.[2][3]

Ym 1922, daeth Green yn ysgrifennydd "Linen League" yr ysbyty lleol, grŵp o ddeugain o ferched a wirfoddolodd i olchi a chyflenwi llieiniau'r ysbyty. Daeth Green yn "ymgyrchydd brwd o blaid rheoli genedigaethau". Gyda Marie Stopes, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu clinig rheoli genedigaethau yn yr ysbyty. [4] Dechreuodd hefyd gyfrannu i gylchgrawn sosialaidd Ffrengig ac ysgrifennodd i'r cylchgrawn Labour Woman in Britain.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bruley 2010, t. 101.
  2. Boots, Bryan (2022). "Green, Beatrice (1894-1927), gweithredydd gwleidyddol". Cyrchwyd 10 Awst 2023.
  3. Bruley 2010.
  4. Stewart 2020.
  5. Bruley, Sue (1 Mawrth 2017). "Beatrice Green and the Unsung Heroines Behind 1926's Lockout". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Awst 2023.