Basra (talaith)
| Math | Taleithiau Irac |
|---|---|
| Prifddinas | Basra |
| Poblogaeth | 2,405,434 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Irac |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 19,070 km² |
| Yn ffinio gyda | Dhi Qar Governorate, Al Jahra Governorate, Maysan Governorate, Khūzestān, Al Muthanna Governorate |
| Cyfesurynnau | 30.37°N 47.37°E |
| IQ-BA | |
![]() | |
Mae talaith Basra, neu talaith Al-Basrah, yn dalaith yn ne Irac, gyda arwynebedd tir o 19070 km sgwar a phoblogaeth o tua 2,600,000 (amcangyfrif 2003). Ei phrifddinas yw Basra, dinas ail fwyaf y wlad; mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Corna, Az Zubayr, Umm Qasr ac Abu Al Khaseeb. Mae'r dalaith yn ffinio â Coweit i'r de ac Iran i'r dwyrain.

Mae'r mwyafrif llethol o'r trigolion yn Fwslemiaid Shia Arabaidd.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae talaith Basra yn gorwedd ar Y Gwlff lle ceir stribyn o arfordir cul rhwng Ciwait ac Iran; Umm Qasr yw'r prif borthladd. Yng ngogledd y dalaith mae afonydd Ewffrates a Tigris yn uno i ffyrfio'r Shatt al-Arab. Mae'r corsdir o'i gwmpas yn gartref i Arabiaid y Corsdir ers canrifoedd lawer.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Yn hanesyddol, dan Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd talaith Basra yn cynnwys tiriogaeth gwladwriaeth bresennol Coweit (nad oedd ond tref fechan ddinod ar y pryd). Ar ôl dwyn y diriogaeth oddi ar yr Ottomaniaid yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf, cyfunodd Prydain hen daleithiau Ottomanaidd (vilayets) Basra, Baghdad a Mosul i ffurfio gwladwriaeth newydd Irac, a reolwyd gan Brydain trwy fandad Cynghrair y Cenhedloedd. Roedd Coweit eisoes wedi dod yn protectorate dan Brydain yn fuan cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan.
Ar ôl cwymp y llywodraeth Ba'ath
[golygu | golygu cod]Talaith Basra yw'r rhan o Irac a roddwyd i luoedd milwrol Prydain oresgyn a rheoli yn Rhyfel Irac. Hyd yn hyn mae dros 160 o filwyr Prydeinig wedi coll eu bywydau yn y dalaith.
Mae cynnig i uno Basra â'r taleithiau cyfagos Dhi Qar a Maysan i ffurfio talaith dde-ddwyreiniol mewn ffederaliaeth Iracaidd newydd yn cael ei drafod ers 2005.
| Taleithiau Irac | |
|---|---|
| Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit | |
