Banda Neira
| Math | ynys |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Maluku, Ynysoedd Banda |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3 km², 3.341 km² |
| Uwch y môr | 80 metr |
| Gerllaw | Banda Sea |
| Cyfesurynnau | 4.5175°S 129.9025°E |
| Hyd | 3.3 cilometr |
![]() | |

Banda Neira yw'r unig anheddiad sylweddol o ran maint ar unrhyw un o'r Ynysoedd Banda. Fe'i lleolir yn nhalaith Maluku yn Indonesia. Lleolir y ddinas ar yr ynys ganolog o'r grŵp Bandas, Banda Neira, a dyma yw'r unig ynys digon o dir gwastad i fedru adeiladu tref fechan. Mae swyddfeydd y llywodraeth, storfeydd, cei a bron i hanner y boblogaeth o 14,000 i'w cael yno.
Arferai Banda Neira fod yn ganolfan rhyngwladol ym masnach nytmeg a byrllysg, am mai'r Ynysoedd Banda oedd yr unig ffynhonnell o'r perlysiau gwerthfawr hyn tan canol yr 19g. Sefydlwyd y dref fodern gan aelodau o'r Vereenigde Oost-Indische Compagnie ("Cwmni Unedig India'r Dwyrain"), a laddodd neu a orfododd y mwyafrif o'r trigolion Bandaneaidd i adael er mwyn cymryd mantais o'r adnodd gwerthfawr hwn.
- Banda Neira ar ddiwedd y 1990au - yr olygfa o Gunung Api
