Byrllysg

Oddi ar Wicipedia
Byrllsyg Cymru yn y Senedd

Mae'r Byrllysg yn un o symbolau Senedd Cymru ac yn rhan o symbolau Gwleidyddiaeth Cymru. Fe'i defnyddir i arwain gosgordd yr aelodau seneddol i'r Senedd[1] ac fe'i harddangsir yn Siambr Senedd Cymru o flaen bwrdd y Llywydd.[2]

Enw[golygu | golygu cod]

Enw swyddogol y byrllysg yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Byrllysg, er defnyddir 'ceremonial mace' ar lafar hefyd. Daw'r gair byrllysg o byr - tew, cryf + llysg - ffon, gwialen. Mae'n cyfateb i borr-slatt ("gwialen gref") yn y Wyddeleg. Ceir y cofnod archifedig gynharaf o 13g o'r Llyvyr Du or Weun.[3] Ceir ynganiad a sillafiad arall, sef, brysgyll lle cafwyd trafodaeth ar y 'cam ynganiad' gan Richard Wyn Jones yn fyw ar raglen S4C o'r agoriad.[4]

Fel sawl senedd arall, mae gan y Senedd fyrllysg seremonïol. Gwialenffon addurnedig wedi’i gwneud o bren neu fetel yw’r byrllysg. Fel arfer, caiff byrllysg ei gario i mewn i senedd-dŷ yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol fel symbol o awdurdod brenhinol., ac fe’i lluniwyd o aur, arian a phres.

Yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol yn Siambr y Senedd, caiff y byrllysg seremonïol ei osod yn ei briod le i nodi Agoriad Swyddogol y Senedd.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Y Tlws: darpar-fyrllysg a ddefnyddiwyd hyd at 2006

Wedi Refferendwm datganoli i Gymru, 1997 sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mwyafrif bychan iawn. Er gwaethaf y fuddugoliaeth dros ddatganoli roedd carfan o fewn y Blaid Lafur Brydeinig nad oedd am roi symboliaeth genedlaethol na chyfansoddiadol i'r sefydliad newydd. O'r herwydd, yn wahanol i Senedd yr Alban, ni ystyriwyd creu symbolau i adlewyrchu statws y Cynulliad.

Y Tlws - ffug Byrllysg[golygu | golygu cod]

Rhwng 1999 a 2006, defnyddiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd gerflun o'r enw'r "Tlws" (arddelwyd y gair Cymraeg bob tro) fel ei byrllysg seremonïol.[5] Wedi'i ddylunio gan y cerflunydd gwydr Jane Beebe,[6] gwnaed y Tlws o wydr, aur, haearn a glo,[7] ac roedd yn eistedd ar blinth llechi o flaen desg y swyddog Llywyddu a chafodd ei oleuo pan oedd y Cynulliad yn eistedd. Cyflwynwyd y Tlws i'r Cynulliad gan y Frenhines yn agoriad swyddogol y Cynulliad Cyntaf ym 1999.[8] Ar hyn o bryd mae'n gorwedd yn siambr ddadlau Siambr Hywel yn adeilad Tŷ Hywel sy'n ffinio ag adeilad y Senedd.

Rhodd[golygu | golygu cod]

Cafwyd y Byrllysg yn rodd gan Senedd De Cymru Newydd, yn Awstralia. Fe’i cyflwynwyd i’r Cynulliad yn ystod Agoriad Brenhinol y Senedd ar 1 Mawrth 2006.[9]

Cafodd ei ddylunio a’i grefftio gan Fortunato Rocca, sef gof aur o Melbourne ac mae wedi’i greu o aur, arian, ac efydd.[10] Cymerodd y byrllysg 300 awr i greu ac mae wedi'i wneud o aur, arian a phres. Yn 2006, roedd yn werth tua £ 10,500 (A $ 25,000) ac fe'i trosglwyddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystod y seremoni agoriadol.[11]

Symboliaeth[golygu | golygu cod]

Caiff y Byrllysg ei gario i'r Senedd a'i osod yn y Siambr er mwyn dynodi agoriad swyddogol y Senedd.[12]

Caiff ei gosod yn ei grud yn Siambr Senedd Cymru wedi i'r teyrn, Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig agor y Senedd y swyddogol.

I nodi diwedd tymor Llywodraeth Cymru, caiff y Byrllysg wedyn ei gludo allan o'r Siambr cyn i etholiad newydd gael ei chynnal ar gyfer Senedd newydd. Yn 2011 cludwyd y Byrllysg gan gyn-Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.[13]

Yn Agoriad Swyddogol y 5ed Senedd, roedd cludydd y byrllysg yn gwisgo tlws sy’n gopi o’r byrllysg, rhodd gan Clogau, cwmni gemwaith o Gymru, wrth iddo droi’r byrllysg yn symbolaidd o flaen Ei Mawrhydi. Defnyddiwyd fanyleb o'r byrllysg, sy'n cynnwys logo y Senedd, ar glawr rhaglen seremoni'r dydd.[14]

Yn agoriad y 6ed Senedd, ar 14 Hydref 2021, cariwyd y Byrllysg gan Shaz Khan, aelod o dîm diogelwch y Senedd. Ganwyd ef yng Nghaerdydd ond symudodd i Bacistan yn ifanc iawn cyn dychwelyd i Gymru.[15][16]

Noder[golygu | golygu cod]

Mae Byrllysg hefyd yn enw ar hen gaer yn Nyffryn Ardudwy, Meirionnydd.[17] Ond credir y daw'r enw yma o "Llys Osber/Osbwrn’, ar ôl y ffigwr hanesyddol, Osbwrn Wyddel[18]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://golwg.360.cymru/newyddion/2072099-agoriad-swyddogol-dangos-cydraddoleb-senedd-medd
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-27. Cyrchwyd 2021-10-14.
  3. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?byrllysg
  4. https://twitter.com/JoPeli/status/1448631468884889601
  5. "The Tlws". Artworks Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2007.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-22. Cyrchwyd 2021-10-14.
  7. https://www.picuki.com/media/1810176763281858736
  8. Gibbs, Geoffrey (27 May 1999). "Welsh crown day with a song". The Guardian. Cyrchwyd 12 April 2009.
  9. https://senedd.wales/media/t5rg4dm3/explore-the-senedd-english.pdf
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-14. Cyrchwyd 2021-10-14.
  11. "New mace is gift from down under". BBC News. 1 March 2006. Cyrchwyd 9 September 2008.
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-27. Cyrchwyd 2021-10-14.
  13. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-27. Cyrchwyd 2021-10-14.
  14. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-27. Cyrchwyd 2021-10-14.
  15. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58900752
  16. https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=800&MId=12562
  17. https://coflein.gov.uk/en/site/302724/
  18. http://www.heneb.co.uk/merionethforts/5byrllysg.html