Bakasana (Y Garan)
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Bakasana (Y Garan) yn asana o fewn i ioga modern fel ymarfer corff a Ioga Hatha lle cedwir y breichiau'n syth. Mae'r asana (neu osgo) Kakasana (Y Frân) yn hynod o debyg ond mae'r breichiau wedi'u plygu.[1] Asana cydbwyso yw'r ddau, gyda phwysau'r corff ar y breichiau, y garddyrnau a'r dwylo, sy'n solad ar y llawr.[2]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r enwau ar yr asanas o'r geiriau Sansgrit बक baka ("garan") neu काक kāka ("brân"), a आसन āsana sy'n golygu "osgo, ystym" neu "siap y corff".[3][4]
Er bod gwahanol ysgolion ioga'n defnyddio gwahanol enwau ar gyfer y asanas hyn, mae Dharma Mittra yn bendant iawn, gan wahaniaethu rhwng y ddau. Mae'n nodi, fod gan y Kakasana freichiau byr (fel coesau'r frân) a bod gan y Bakasana freichiau syth, hir (fel y coesau'r garan).[5] Mae Light on Yoga gan BKS Iyengar (1966) yn disgrifio Bakasana'n unig, a hynny gyda breichiau syth.[6] Yn Ioga Sivananda, mae Llyfr Ioga Cyflawn Darluniadol Swami Vishnudevananda o 1960 yn disgrifio'r Kakasana yn unig, gyda breichiau wedi'u plygu.[7] Fodd bynnag, mae ymarferwyr Saesneg yn y gorllewin yn aml yn cam-gyfieithu'r Sansgrit "Bakasana" fel "Crow Pose".[2]Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. t. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. p. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.</ref>[8]
Gellir dyddio'r asanas cydbwyso hyn i o leiaf y 17g pan gyhoeddwyd Hatha Ratnavali, lle mae Bakasana yn rhif 62 o'r 84 ystum y dywedir iddynt gael eu haddysgu gan Shiva.[9]
MaeSritattvanidhi o'r 19g hefyd yn disgrifio ac yn darlunio'r Kakasana a'r Bakasana.[10]
Amrywiadau
[golygu | golygu cod]-
Parsva Bakasana (Garan ar ei Hochr) - gyda chymorth y penelin
-
Eka Pada Kakasana (Brân Ungoes)
-
Eka Pada Kakasana (Brân Ungoes)
-
Eka Pada Sirsa Bakasana
Mae'r amrywiadau'n cynnwys:
- Parsva Bakasana (Garan ar ei Hochr) lle mae un glun yn gorwedd ar ochr uchaf y fraich gyferbyn a'r goes arall ar ben y goes gyntaf.[11][12]
- Eka Pada Bakasana (Garan Ungoes) / Eka Pada Kakasana (Brân Ungoes) lle mae un goes yn aros yn Bakasana tra bod y llall yn ymestyn yn syth yn ôl.[13]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. ISBN 978-1855381667.
- Jain, Andrea (2015). Selling Yoga : from Counterculture to Pop culture. Oxford University Press. ISBN 978-0-19-939024-3. OCLC 878953765.
- Newcombe, Suzanne (2019). Yoga in Britain: Stretching Spirituality and Educating Yogis. Bristol, England: Equinox Publishing. ISBN 978-1-78179-661-0.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Crane Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ 2.0 2.1 Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. t. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Kingsland, Kevin; Kingsland, Venika (1976). Complete Hatha Yoga. Arco. t. 121. ISBN 978-0-668-03958-1.
- ↑ Mittra, Dharma (21 Mawrth 2003). Asanas: 608 Yoga Postures. New World Library. ISBN 978-1-57731-402-8. Cyrchwyd 25 Mehefin 2011.
- ↑ Iyengar, B. K. S. (1987) [1966]. Light on Yoga. New York: Schocken Books. tt. 315–317. ISBN 0-8052-0610-8.
- ↑ Vishnu-devananda, Swami (1988) [1960]. The Complete Illustrated Book of Yoga. Three Rivers Press. t. plate 110. ISBN 0-517-88431-3.
- ↑ Long, Ray (August 2009). The Key Muscles of Yoga: The Scientific Keys, Volume 1. Greenleaf Books. t. 230. ISBN 978-1-60743-238-8. Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999). The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 73–74, plate 5 (poses 27 and 30). ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ "Side Crane Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 2011-04-09.
- ↑ Stearn, Jess (1965). Yoga, Youth, and Reincarnation. Doubleday. t. 348. Cyrchwyd 9 April 2011.
- ↑ Hewitt, James (1990). Complete Yoga Book. Schocken Books. t. 357.[dolen farw]