Ayande
| Math | council of Asturies |
|---|---|
| Prifddinas | Pola de Allande |
| Poblogaeth | 1,506 |
| Pennaeth llywodraeth | María Victoria López Villamarzo |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Q11690444, Q107553116 |
| Sir | Province of Asturias |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 339.37 km² |
| Uwch y môr | 1,416 metr |
| Yn ffinio gyda | Grandas de Salime, Pezós, Eilao, Villayón, Tinéu, Cangas del Narcea, Ibias, Negueira de Muñiz |
| Cyfesurynnau | 43.272161°N 6.608867°W |
| Cod post | 33815, 33885 - 33890 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Allande |
| Pennaeth y Llywodraeth | María Victoria López Villamarzo |
![]() | |
Mae Ayande (Sbaeneg: Allande; Astwreg: Ayande) yn ardal weinyddol yng Nghymuned Awtomanaidd Asturias, yng ngwladwriaeth Sbaen. Ei phrifddinas yw La Puela (Pola de Allande yn Sbaeneg).
Ffinir Ayande i'r gorllewin gan ardaloedd gweinyddol yng Ngalisia.
Mae mwyafrif y tir yn yr ardal yn 'Gofeb Genedaethol' ac ymysg ei fforestydd cyfoethog ceir coed yw mil oed ym mhlwyfi Santa Colma a Lago, ac yn fforest coed corc yn Boxu.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Ayande yw un o'r bwrdeistrefi lleiaf poblog yn Astwrias. Fel gweddill ardaloedd gwledig Astwrias mae wedi colli ei phoblogaeth. Cafwyd dau don o ddi-boblogi yn ystod 20g. Roedd y cyntaf rhwng 1900 ac 1930, pan ymfudodd nifer fawr o bobl i'r Americas, yn arbennig, Ciwba, Puerto Rico, Yr Ariannin a Gweriniaeth Dominica. Cafwyd yr ail don ers 1960 yn sgil dad-ddiwydiannu'r cefn gwlad, gan weld y fwrdeistref yn colli bron i ddau draean o'i phoblogaeth.
Gwyliau Lleol
[golygu | golygu cod]Dethlir nifer o wyliau lleol yn y Ayande. Ceir Nuestra Señora de Avellano (Our Lady of Avellano) yn Pola de Allande o 7 -10 mis Medi; Nuestra Señora de Belderaman (Our Lady of Belderaman) o 15 Awst. Ceir ffynnon mewn noddfa o'r un enwsydd, yn ôl yr hanes, yn gwella'r goiter.
Ceir hefyd wyliau San Jorge de Monon ar 29 Mehefin; San Pedro de Valbona ar 29 Mehefin; Santa Isabel yn Berducedo ar Sul cyntaf ym mis Gorffennaf; San Cristóbal in Campo el Río ar ail Sul Gorffennaf a San Roque in Fonteta ar 16,17 ac 18 Awst.
