Aurelius Victor
Aurelius Victor | |
---|---|
Ganwyd |
c. 0320 ![]() Affrica ![]() |
Bu farw |
c. 0390 ![]() |
Dinasyddiaeth |
Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth |
llywodraethwr Rhufeinig, hanesydd, bardd ![]() |
Blodeuodd |
360, 389 ![]() |
Hanesydd Rhufeinig, brodor o dalaith Rufeinig Affrica, oedd Aurelius Victor (fl. ail hanner y 4g). Yn ôl pob tebyg bu'n llywodraethwr Pannonia dan yr ymerawdwr Julian yn 361 a prefect Rhufain yn 389.
Ysgrifennodd o leiaf un llyfr ar hanes Rhufain, ond dydi'r testunau gwreiddiol ddim wedi goroesi. Ceir crynodeb o'r cyntaf, hanes ymerodron Rhufeinig o Iŵl Cesar hyd Cystennin a ysgrifennwyd tua 360. Yn ogystal ceir Epitome yn ei enw sy'n parhau â hanes yr ymerodron hyd amser Theodosius, ond mae hwnnw'n waith diweddarach.
Tadogir dau lyfr arall arno yn ogystal, De Viris Illustribus Urbis Romae, sy'n rhoi hanes enwogion y byd Rhufeinig o'r brenin Procas hyd Cleopatra o'r Aifft, ynghyd â llyfr bychan Origo Gentis sy'n llawer diweddarach na chyfnod Aurelius.
Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902).