Auregnais

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Auregnais, Aoeur'gnaeux neu Aurignais oedd yr amrywiad ar y Ffrangeg Normanaidd a siaredid ar Ynys Alderney (Nodyn:Lang-frFfrangeg: Aurigny Auregnais: Aoeur'gny or Auregny) yn Ynysoedd y Sianel.  Roedd yn perthyn yn agos i ieithoedd Guernésiais (Ynys y Garn), Jèrriais (Jersey),  Sercquiais (Sarc) yr ynysoedd cyfagos, yn ogystal â Normaneg Cyfandirol ar dir mawr Ewrop .

Bu farw'r iaith yn yr 20fed ganrif. Dim ond ychydig o enghreifftiau ohoni a erys, mewn enwau lleoedd ar Alderney yn bennaf.  Mae un recordiad llafar o'r iaith yn cael ei siarad gan siaradwr brodorol ar gael. Mae ieithyddion wedi disgrifio tranc yr iaith fel  "the worst documented case of recent language extinction."[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw siaradwr olaf yr Auregnais tua 1960.[2][3] Recordiodd yr ieithydd  Frank Le Maistre, awdur y Dictionnaire Jersiais-Français, yr unig enghreifftiau llafar o'r iaith a gyhoeddodd ym 1982.[4]

Symud poblogaeth oedd un o'r rhesymau dros dranc yr iaith. Yn enwedig y mewnlifiad o weithwyr o'r Deyrnas Unedig a gyflogwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig i adeiladu'r harbwr a'r amddiffynfeydd eraill (yn ystod teyrnasiad y Frenhines Victoria). Yn ogystal, anfonwyd  garsiwn Prydeinig sylweddol o faint i'r ynys. Roedd y milwyr hyn yn byw ymhlith poblogaeth leol weddol fach.  Roedd hyn oll wedi rhoi mwy o fri ar y Saeseng fel cyfrwng cyfathrebu cyffredin ar draul yr Auregnais. Yr ergyd farwol, mae'n debyg, oedd ymadawiad bron pob brodor â'r  ynys i fynd i Brydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Meddianwyd yr ynys gan y Wehrmacht a chodwyd nifer o wersylloedd llafur yno. Cafodd mewnlifiad pellach o Brydeinwyr a symudodd yno i fyw at ddibenion trethi, ymhlith rhesymau eraill, effaith andywol ar yr iaith. 

Rheswm arall dros dranc yr iaith oedd esgeulsutod swyddogol, yn enwedig yn y sector addysg, lle na chafodd ei dysgu o gwbl. Arweiniodd hyn at sefyllfa, fel y nodwyd yn y papur newydd o Guernsesy Le Bailliaige yn 1880, lle peidiodd y plant â siarad yr iaith ymhlith ei egilydd - yn rhannol am fod athrawon wedi annog y plant i siaradFfrangeg yn ei lle.  Ond, fe edwinodd defnydd o'r Ffrangeg hefyd ar draul y Saesneg. Daeth cyfnod y Ffrangeg fel iaith swyddogol yr ynys i ben ym 1966. Mae'r Ffrangeg swyddogol a ddefnyddir yn Ynysoedd y Sianel (gweler Ffrangeg Cyfreithiol Jersey) ychydig yn wahanol i Ffrangeg Ffrainc ac yn wahanol iawn i Normaneg llafar. 

Cyfenwau ac enwau lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae olion o'r iaith i'w gweld mewn llawer, os nad y rhan fwyaf, o enwau lleoedd. Mae llawer ohonynt wedi cael eu newid i edrych fel Ffrangeg safonol, ond mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys Ortac (Or'tac), Burhou (gyda'r ôl-ddodiad  -hou ) a'r elfen gyntaf yn yr enw  "Braye Harbour".

Mae un neu ddau o eiriau yn aros yn Saesneg yr ynys, e.e. vraic (gwrtaith gwymon – gair sy'n gyffredin ar draws Ynysoedd y Sianel), ac ynganiad rhai cyfenwau lleol e.e. Dupont a Simon fel [dipõ] a [symõ] yn hytrach na'r ynganiad safonol yn Ffrainc . Mae ychydig o hen bobl yn cofio clywed yr iaith yn cael ei siarad ac maen nhw'n gwybod ambell air. 

Les Casquets[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ddigon anarferol ar gyfer iaith mor fach, roedd gan yr Auregnais allglofan neu "drefedigaeth" o siaradwyr ar ynsyoedd Les Casquets am nifer o flynyddoedd. Seiliodd  Algernon Charles Swinburne  ei gerdd  Les Casquets ar deulu Houguez a fu'n byw ar yr ynysodd am 18 mlynedd. Daeth teulu Houguez o Alderney, ac mae tystiolaeth eu bod wedi siarad Auregnais  – fe briododd y ferch ddyn o Alderney. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y teulu yn byw yn bell o bawb a phobman, a phrin oedd yr ymwelwyr, ond byddent wedi siarad Auregnais.  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gunther, Wilf (1990). "Language conservancy or: can the anciently established British minority languages survive?". Fourth International Conference on Minority Languages. p. 58. Adalwyd 7 December 2015.  Check date values in: |access-date= (help)Check date values in: |access-date= (help)
  2. Satter, Raphael (4 Oct 2012). "Scottish man dies, taking town's unique dialect with him". https://www.thestar.com/news/world/2012/10/04/scottish_man_dies_taking_towns_unique_dialect_with_him.html. "The last native speaker of Alderney French, a Norman dialect spoken in the Channel Islands, died around 1960."
  3. Price, G. (2000), "Alderney French (Auregnais)" in Encyclopedia of the Languages of Europe, Wiley-Blackwell, New Ed edition, ISBN 978-0631220398
  4. Sallabank, Julia (2013). Attitudes to Endangered Languages: Identities and Policies. Cambridge University Press. pp. 58–59. Adalwyd 7 December 2015.  Check date values in: |access-date= (help)Check date values in: |access-date= (help)
Ffynonellau ychwanegol
  • Jones, Mari C. (2015). "Auregnais: Insular Norman's Invisible Relative". Transactions of the Philological Society. doi:10.1111/1467-968X.12060.
  • Le Maistre, F. (1982), The Language of Auregny (cassette with accompanying 19-page booklet), St Helier, Jersey and St Anne, Alderney.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • enghreifftiau o eirau i'w cymharu[1] yn L'Aur'gnais