Guernésiais

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Y Guernésiais, a elwir hefyd yn Dgèrnésiais, yn Djernezié,  yn Giérrneziei, yn Gernesiés, yn Ffrangeg Guernsey, ac yn Ffrangeg Normanaidd Guernsey, yw'r amrywiad o Ffrangeg Normanaidd a siaredir ar Ynys y Garn .Weithiau, mae pobl yr ynys yn ei galw yn "patois". Mae'n un o'r langues d'oïl, â'i gwreiddiau yn y Lladin, ond mae wedi dod o dan ddylanwad cryf o'r Hen Norseg a'r Saesneg, ar adegau gwahanol yn ei hanes. Mae'n perthyn yn agos i iaith Normanaidd Jersey, y Jèrriais, iaith Normanaidd Sarc, y Sercquiais,  ac iaith Normanaidd Alderney, yr Auregnais.  

Mae siaradwyr Guernésiais, siaradwyr Jèrriais o Jersey a siaradwyr Normaneg Cyfandirol o Normandi yn deall ei gilydd yn weddol gyda rhyw faint o ymdrech. Guernésiais sydd fwyaf tebyg i'r dafodiaith Normanaidd Cotentinais a siaredir yn la Hague ym Mhenryn Cotentin.

Mae Ffrangeg Safonol wedi dylanwadu lai ar y Guernésiais na'r Jèrriais, ond i'r gwrthwyneb mae'r Saesneg wedi dylanwadu fwy ar y Guernésiais na'r Jèrriais.  Mae geiriau newydd wedi cael eu benthyg o'r Saesneg  ar gyfer pethau modern fel "le bike", "le gas-cooker".

Mae traddodiad cyfoethog o farddoniaeth yn y Guernésiais . Ysbrydolwyd caneuon Ynys y Garn gan y môr, gan droeon ymadrodd lliwgar,  gan lên gwerin traddodiadol, yn ogystal â chan amgylchedd naturiol yr ynys. Bardd enwocaf yr ynys oedd George Métivier (1790-1881), un o gyfoedion Victor Hugo, a ddylanwadai ac a ysbrydolai'r beirdd lleol i argraffu a chyhoeddi eu barddoniaeth draddodiadol. Cyfunodd Métivier enwau lleoedd lleol, enwau lleol ar  adar ac anifeiliaid lleol, dywediadau traddodiadol  a darnau o farddoniaeth yr oesoedd canol i greu ei Rimes Guernesiaises (1831). Ystyriwyd Denys Corbet (1826-1910) yn "Fardd Olaf" y Guernésiais ac fe gyhoeddodd nifer o gerddi yn ei famiaith yn ystod ei oes ym mhapur newydd yr ynys ac yn breifat.

Ysgrifennodd Métivier, Que l'lingo seit bouan ou mauvais / J'pâlron coum'nou pâlait autefais (boed y "lingo"'n slic neu'n slac, rwy'n mynd i siarad fel rôn ni'n arfer siarad).

Y  geiriadur mwyaf diweddar o'r Guernésiais, Dictiounnaire Angllais-guernesiais. Société guernesiaise. 1967.  (argraffiad diwygiedig a gyhoeddwyd 1982), oedd gwaith mawr Marie de Garis (1910-2010). Ym 1999, urddwyd de Garis  yn aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith.

Statws cyfredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Guernésiais ar frig y rhestr hon o negeseuon croeso yn swyddfa dwristiaeth Guernsey yn Saint Peter Port

Dangosodd cyfrifiad 2001 fod 1327 (1262 wedi eu geni ar Ynys y Garn) neu 2% o'r boblogaeth sy'n siarad yr iaith yn rhugl tra bod 3% yn deall yr iaith. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r rhain, 70% neu 934 o'r 1327 o siaradwyr rhugl,  dros 64 oed. Ymysg yr ifanc dim ond 0.1%, neu un mewn mil oedd yn siaradwr rhugl. Fodd bynnag, roedd 14% o'r boblogaeth yn honni eu bod yn deall rhywfaint  o'r iaith.  Erbyn 2012 amcangyfrifwyd bod nifer y siaradwyr yn llai na 500,  a rhyw 200 erbyn 2014.  Mae UNESCO yn disgrifio'r iaith fel un sydd bellach mewn perygl difrifol. 

  • Mae L'Assembllaïe d'Guernesiais, cymdeithas ar gyfer siaradwyr yr iaith, a sefydlwyd yn 1957, wedi cyhoeddi cyfnodolyn. Mae Les Ravigoteurs, cymdeithas arall, wedi cyhoeddi llyfr storiau a chasét ar gyfer plant.
  • Mae Ysgol Forest yn cynnal cystadleuaeth siarad flynyddol ar gyfer plant ysgolion cynradd yr ynys (Blwyddyn 6)
  • Mae'r iaith cael ei dysgu i ryw raddau mewn  dosbarthiadau gwirfoddol mewn ysgolion ar Ynys y Garn.[1]
  • Mae dosbarthiadau nos ar gael, ers 2013.
  • Mae dosbarthiadau amser cinio yn cael eu cynnig yn Amgueddfa Ynys y Garn, ers 2013.
  • Ynghyd â Jèrriais, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Cymraeg, Cernyweg, Manaweg, a Sgoteg (yn yr Alban yn ogystal â thafdoieithoedd Sgoteg Ulster),  mae Guernésiais yn cael ei chydnabod yn iaith ranbarthol gan lywodraethau Prydain ac Iwerddon o fewn y fframwaith y Cyngor Prydeinig–Gwyddelig.
  • Mae BBC Radio Guernsey a'r Guernsey Press yn rhoi gwersi achlysurol.
  • Penodwyd swyddog datblygu'r iaith Guernésiais, Jan Marquis, yn Ionawr 2007[2]
  • Ychydig iawn o ddarlledu sydd yn yr iaith. Mae  ITV Channel Television  fwy neu lai'n anwybyddu'r iaith, ond dim ond rhaglenni nodwedd byrion achlysurol, fel arfer i ddysgwyr sydd ar  BBC Radio Guernsey.
  • Cyhoeddwyd creu Comisiwn yr Iaith Guernésiais ar 7 Chwefror 2013[3]  gan lywodraeth Ynys y Garn i ddiogelu'r diwylliant ieithyddol. Mae'r Comisiwn yn gweithredu er 9 Mai 2013 .

Eisteddfod Ynys y Garn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Eisteddfod flynyddol  yn rhoi cyfle ar gyfer perfformiadau yn yr iaith, ac mae'r radio a'r papurau newydd yn adrodd yn rheolaidd ar y digwyddiadau. Dechreuwyd cynllunio ar gyfer Eisteddfod ar Ynys y Garn mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 1921 o dan lywyddiaeth y Beili ar pryd, Syr Edward Ozanne. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf ar 1 Tachwedd 1922 yn y Little Theatre ac ar wahân i'r blynyddoedd 1940-1945 mae wedi cael ei chynnal yn flynyddool byth oddi ar hynny.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Y bardd o Ynys y Garn George Métivier (1790–1881) - a lysenwyd yn Burns Ynys y Garn - oedd y cyntaf i lunio geiriadur o Ffrangeg Normanaidd Ynysoedd y Sianel, sef y  Dictionnaire Franco-Normand (1870).  Sefydlodd y geiriadur hwn orgraff gyntaf yr iaith. Fe'i diweddarwyd a'i moderneiddio wedyn. Ymhlith ei weithiau barddonol y mae  Rimes Guernesiaises  a gyhoeddwyd yn 1831.
  • Cyhoeddodd y Tywysog Louis Lucien Bonaparte gyfieithiad Guernésiais o'r Efengyl yn ôl Mathew yn Llundain yn 1863 fel rhan o'i ymchwil ieithegol .
  • Fel Métivier, cyhoeddodd Tam Lenfestey (1818–1885) farddoniaeth mewn papurau newydd a llyfrau ar Ynys y Garn.
  • Fe ddisgrifiodd Denys Corbet (1826–1909) ei hun fel y Draïn Rimeux (y bardd olaf), ond parhaodd beirdd i ganu ar ei ôl ef. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerddi, yn enwedig ei daith epig L'Touar de Guernesy, sy'n daith bicaresg o blwyfi Ynys y Garn. Bu'n olygydd ar bapur newydd Ffrangeg Le Bailliage, ac yn ogystal fe ysgrifennodd feuilletons yn Guernésiais o dan y ffugenw Badlagoule ("clebryn"). Yn 2009 fe drefnodd yr ynys arddangosfa arbennig ar Corbet a'i waith ym Mhlwyf Forest gan nodi canmlwyddiant ei farwolaeth a chan ddadorchuddio portread cyfoes ohono gan Christian Corbet a oedd yn gefnder i Denys Corbet. 
  • Roedd Victor Hugo wedi cynnwys ambell air Guernésiais yn rhai o'i nofelau a osodwyd yn Ynysoedd y Sianel.  Yn ei nofel o'r enw Les Travailleurs de le mer (1866) (Llafurwyr y Môr) fe gyflwynodd Hugo y gair Guernésiais am octopws, sef pieuvre, i'r Ffrangeg safonol  (y gair Ffrangeg safonol am octopws yw poulpe).
  • Cyfieithodd Thomas Martin (1839–1921) y canlynol i'r Guernésiais: y Beibl (gan gynnwys yr Apocryffa), dramâu William Shakespeare, deuddeg drama gan Pierre Corneille, tair drama gan Thomas Corneille, saith drama ar hugain gan Molière, ugain drama gan VoltaireThe Spanish Student gan Henry Wadsworth Longfellow.[4]
  • Ysgrifennodd Thomas Henry Mahy (1862–21 April 1936) Dires et Pensées du Courtil Poussin, sef colofn reolaidd yn La Gazette Officielle de Guernesey, o 1916 ymlaen. Cyhoeddwyd casgliad ohonynt ar ffurf llyfryn ym 1922. Roedd yn dal i gyhoeddi cerddi a rhyddiaith yn achlysurol erbyn dechrau'r 1930au. 
  • Cyhoeddodd Thomas Alfred Grut (1852–1933) Des lures guernesiaises ym 1927, a oedd unwaith eto yn gasgliad o golofnau papur newydd. Yn ogystal, fe gyfieithodd rai o straeon Jèrriais Philippe Le Sueur Mourant i'r Guernésiais.
  • Ysgrifennodd Marjorie Ozanne (1897–1973) straeon byrion a gyhoeddwyd yn y Guernsey Evening Press rhwng 1949 a 1965. Mae rhai o'i gweithiau cynnar i'w cael yn La Gazette de Guernesey yn y 1920au.
  • Cyfieithodd Ken Hill lawer o straeon byrion a cherddi Marjorie Ozanne i Saesneg Ynys y Garn dechrau'r 20fed ganrif. Cyhoeddwyd y casgliad gan y Guernsey society.
  • Disodlwyd geiriadur Métivier gan eiriadur Marie de Garis (1910–2010) Dictiounnaire Angllais-Guernésiais; cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1967, atodiadau yn 1969, a 1973, trydydd argraffiad yn 1982, pedwerydd argraffiad 2012. 
  • Pan oresgynnwyd Ynysoedd y Sianel gan yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, fe ddaeth y Guernésiais o hyd i swyddogaeth newydd.  Roedd llawer o bobl yr ynys wedi defnyddio'r iaith yn hytrach na'r Saesneg er mwyn celu'r hyn roedden nhw'n ei ddweud rhag yr Almaenwyr, yn enwedig am fod rhai o'r Almaenwyr yn medru rhywfaint o Saesneg. 
  • Cyhoeddwyd casgliad o straeon byrion, P'tites Lures Guernésiaises (yn Guernésiais gyda chyfieithiadau cyfochrog i'r Saesneg) gan awduron amrywiol yn 2006.[5]Nodyn:Lang-fr

Cyfieithiadau o'r Beibl[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cyfieithodd George Métivier Efengyl Matthew i'r Guernésiais ac fe'i cyhoeddwyd yn Llundain yn 1863. Mae ar gael ar-lein.[6]
  • Cyfieithodd Thomas Martin y Beibl cyfan i'r Guernésiais ond ni chafodd ei gyhoeddi erioed

Orgraff[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes un orgraff safonol yn y Guernésiais. Bu'n iaith lafar yn unig tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffonoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae trawsosod /r/ yn gyffredin yn y Guernésiais, o gymharu â'r Sercquiais a'r Jèrriais.

Guernésiais Sercquiais Jèrriais Ffrangeg Saesneg
kérouaïe krwee crouaix croix cross
méquerdi mekrëdi Mêcrédi mercredi Wednesday

Enghreifftiau eraill yw pourmenade (promenâd), persentaïr (cyflwyno), terpid (trybedd).

Berfau[golygu | golygu cod y dudalen]

aver, bod gan  (berf gynorthywol)

presennol gorffennol amherffaith dyfodol amodol
1 un. j'ai j'aëus j'avais j'érai j'érais
2 un. t'as t'aëus t'avais t'éras t'érais
3 un. (g) il a il aëut il avait il éra il érait
3 sg. (b) all' a all' aeut all' avait all' éra all' érait
1 ll. j'avaöns j'eûnmes j'avaëmes j'éraöns j'éraëmes
2 ll. vous avaïz vous aeutes vous avaites vous éraïz vous éraites
3 ll. il' aönt il' aëurent il' avaient il' éraönt il' éraient

oimaïr, caru (rhediad rheolaidd)

presennol gorffennol amherffaith dyfodol amodol
1 un. j'oime j'oimis j'oimais j'oim'rai j' oim'rais
2 un. t'oimes t'oimis t'oimais t'oim'ras t'oim'rais
3 un. (g) il oime il oimit il oimait il oim'ra il oim'rait
3 un. (b) all' oime all' oimit all' oimait all' oim'ra all' oim'rait
1 ll. j'oimaöns j'oimaëmes j'oimaëmes j'oim'rons j' oim'raëmes
2 ll. vous oimaïz vous oimites vous oimaites vous oim'raïz vous oim'raites
3 ll. il' oiment il' oimirent il' oimaient il' oim'raönt il' oim'raient

Enghreifftiau[golygu | golygu cod y dudalen]

"Dysgwch Guernésiais gyda'r BBC
BBC Guernsey
Eich llais yn yr Ynysoedd"
Guernésiais
(Ynganiad)
Cymraeg Ffrangeg
Warro Shwmae/S'mae Salut
Quaï temps qu’i fait? Sut beth yw'r tywydd? Quel temps fait-il ?
I' fait caoud ogniet Mae hi'n dwym heddiw Il fait chaud aujourd'hui
Tchi qu’est vote naom? Beth yw'ch enw? Fffurfiol: Comment vous appellez-vous?
Anffurfiol: Comment t'appelles-tu? / Comment tu t'appelles?
Quel est votre nom?
Coume tchi que l’affaire va?
(cwm tshic la-ffer fa)
Shwd wyt ti?/ Sut wyt ti?
Ll. sut mae busnes yn mynd?
Comment vont les affaires ?
Quaï heure qu'il est? Faint o'r gloch yw hi? Quelle heure est-il ?
À la perchoine
(a la per-sioe-n)
Hwyl fawr Au revoir
À la prochaine
Mercie bian Diolch yn fawr Merci beaucoup
Anffurfiol: Merci bien
chén-chin hwn ceci
ch'techin hwn yma celui-ci
Lâtchiz-mé Gadewch imi fod Laissez-moi
Guernsey 2011 153, Fort Grey, fish advert.jpg

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Learn Guernsey’s language in a lunch break". IFC Feed.com - Guernsey. 2013-10-11. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2013-10-29. https://web.archive.org/web/20131029195432/http://www.ifcfeed.com/guernsey-articles/Learn-Guernsey%E2%80%99s-language-in-a-lunch-break.aspx. Adalwyd 2013-10-24.
  2. "Guernesiais promoter starts work" (yn en-GB). 2007-12-29. http://news.bbc.co.uk/2/hi/europe/guernsey/7164246.stm.
  3. "Language commission to be formed". Guernsey Press. 8 February 2013. http://www.thisisguernsey.com/news/2013/02/08/language-commission-to-be-formed/. Adalwyd 12 February 2013.
  4. The Guernsey Norman French Translations of Thomas Martin: A Linguistic Study of an Unpublished Archive, Mari C. Jones, Leuven 2008, ISBN 978-90-429-2113-9
  5. P'tites Lures Guernésiaises, edited Hazel Tomlinson, Jersey 2006, ISBN 1-903341-47-7
  6. "Sâint Makyu 1, L' Sâint Évàngile Siévant Sâint Makyu 1863 (GUE1863) - Chapter 1 - The Bible App - Bible.com". https://www.bible.com/en-GB/bible/1641/mat.1.gue1863. Adalwyd 31 March 2018.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • De Garis, Marie (5 November 1982). Dictiounnaire Angllais-Guernésiais. Phillimore & Co Ltd. ISBN 978-0-85033-462-3.  Check date values in: |date= (help)Check date values in: |date= (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]