August Bournonville
Gwedd
| August Bournonville | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Awst 1805 Copenhagen |
| Bu farw | 30 Tachwedd 1879 Copenhagen |
| Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc, Ffrainc |
| Galwedigaeth | meistr mewn bale, coreograffydd, dawnsiwr bale |
| Tad | Antoine Bournonville |
| Priod | Helena Frederika Håkansson |
| Plant | Charlotte Bournonville |
| Gwobr/au | Marchog Urdd y Dannebrog, Decoration of the Cross of Honour of the Dannebrog |
Meistr bale a choreograffydd o Ddenmarc oedd August Bournonville (21 Awst 1805 - 30 Tachwedd 1879). Bu'n astudio ym Mharis fel dyn ifanc. Daeth yn ddawnsiwr unigol gyda Bale Brenhinol Denmarc yng Nghopenhagen. Daeth yn goreograffydd y cwmni o 1830 i 1877. Creodd dros 50 sioe bale, ond prin yw'r rhai sydd wedi goroesi. Dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth ei waith ym myd y bale yn adnabyddus y tu allan i Ddenmarc.[1]
Ei waith mwyaf adnabyddus yw Napoli.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Terry, Walter. The King's Ballet Master: A Biography of Denmark's August Bournonville. New York: Dodd, Mead, & Company, 1979. ISBN 0-396-07722-6.