Neidio i'r cynnwys

Atynydd Mawr

Oddi ar Wicipedia
Atynydd Mawr
Enghraifft o:galaxy filament, gravity anomaly, uwch glwstwr Edit this on Wikidata
Màs50,000,000,000,000,000 Edit this on Wikidata
Rhan oUwch Glwstwr Laniakea, Zone of Avoidance Edit this on Wikidata
CytserNorma Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear250,000,000 blwyddyn golau, 75 Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/018268 edit this on wikidata
Llun gan yr Arsyllfa Ewropeaidd Deheuol i gyfeiriad yr Atynydd Mawr

Mae'r Atynydd Mawr yn anomaledd disgyrchol yn y gofod rhyngalaethog ger Uwchglwstwr Centaurus sy'n datguddio bodolaeth cywasgiad más lleol sy'n cyfateb i fás degau o filoedd o galaethau, sy'n dangos i fyny oherwydd ei effaith ar symudiad galaethau a'r clystyrau cysylltiedig â nhw mewn rhanbarth o'r gofod sydd â'i led i'w fesuro mewn canoedd o filiynau o flynyddoedd golau.

Mae'r galaethau hyn i gyd yn dangos rhuddiad, yn ôl rheolau Llif Hubble, sy'n dangos eu bod yn symud ymaith oddi wrthym ni ac oddi wrth ei gilydd hefyd, ac mae'r amrywiadau yn eu rhuddiad, sy'n amrywio yn ôl pellter y galaethau oddi wrth yr Atynydd Mawr, yn ddigon i brofi bodolaeth yr anomaledd hwnnw.

Cafwyd yr arwyddion cyntaf a awgrymai gwyriad oddi ar ymlediad rheolaidd y bydysawd yn 1973 ac eto yn 1978. Yn 1986 darganfuwyd lleoliad yr Atynydd Mawr, sy'n gorwedd ar bellter o tua 150 miliwn i 250 miliwn blwyddyn golau (yr olaf yw'r amcangyfrifiad diweddaraf) i ffwrdd o'r Llwybr Llaethog (ein galaeth ni), i gyfeiriad cytserau Hydra a Centaurus. Dominyddir y rhan honno o'r gofod gan y clwstwr Norma (ACO 3627),[1] clwstwr anferth o galaethau, sy'n cynnwys galaethau hen yn bennaf, nifer ohonynt mewn gwrthdrawiad â'u cymdogion, ac/neu yn gollwng nifer fawr o tonnau radio.

Mae ceisiadau i astudio'r Atynydd Mawr a ffenomenau eraill yn yr ardal ymhellach yn cael eu llesteirio gan eu lleoliad mewn ardal o awyr y nos sy'n guddiedig gan rhanbarthau canol y Llwybr Llaethog â'i filiynau o sêr disglair.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Dressler, Alan. Voyage to the Great Attractor: Exploring Intergalactic Space. Efrog Newydd, Alfred A. Knopf, 1994.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Atynydd Mawr, uwchglwstwr o'r Saesneg "Great Attractor, supercluster". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.