Atomfa Zaporizhzhia

Oddi ar Wicipedia
Atomfa Zaporizhzhia
Trem ar Atomfa Zaporizhzhia yn y tu blaen, gyda'i dau dŵr oeri (chwith) a chwech adeilad adweithydd. Yn y cefn gwelir simneioedd yr orsaf drydan gwresol.
Mathatomfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadEnerhodar Edit this on Wikidata
SirEnerhodar, Zaporizhzhia Oblast Edit this on Wikidata
GwladWcráin Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.5083°N 34.5917°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnergoatom Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEnergoatom Edit this on Wikidata

Atomfa a leolir yn Oblast Zaporizhzhia yn ne-ddwyrain Wcráin yw Atomfa Zaporizhzhia (Wcreineg: Запорізька атомна електростанція Zaporizʹka atomna elektrostantsiya). Hon yw'r orsaf ynni niwclear fwyaf yn Ewrop, ac un o'r 10 atomfa fwyaf yn y byd. Saif yr orsaf, a adeiladwyd yng nghyfnod Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn y 1980au, ar lan ddeheuol Cronfa Ddŵr Kakhovka ar Afon Dnieper, ger dinas Enerhodar a rhyw 50 km i dde-orllewin dinas Zaporizhzhia. Lleolir gorsaf drydan gwresol Zaporizhzhia rhyw 3 km o'r atomfa.

Rheolir yn swyddogol gan Energoatom, yr un cwmni sydd yn rheoli'r tair atomfa arall yn Wcráin. Yn sgil goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022, cipiwyd Atomfa Zaporizhzhia gan luoedd Rwsiaidd a fe'i rheolir bellach mae'n debyg gan y cwmni Rosatom,[1] a'r gweithwyr Wcreinaidd dan oruchwyliaeth rheolwyr Rwsiaidd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Invaders seize Zaporizhzhia power plant and claims it is part of Rosatom", Ukrayinska Pravda (12 Mawrth 2022).
  2. (Saesneg) Edith M. Lederer, "UN nuclear chief: Ukraine nuclear plant is `out of control’", AP News (3 Awst 2022).