Zaporizhzhia
Trem yn y nos ar Rodfa'r Gadeirlan (Prospekt Sobornyi), yng nghanol Zaporizhzhia. | |
| Math | dinas fawr, dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Zaporozhzhia |
| Poblogaeth | 710,052 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Rehina Kharchenko |
| Cylchfa amser | Amser Haf Dwyrain Ewrop, UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Zaporizhzhia urban hromada, Cyngor Dinas Zaporozhye, Zaporozhye okruga, Yekaterinoslav, Zaporizhzhia Governorate, Yekaterinoslav |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 331 km² |
| Uwch y môr | 86 metr |
| Gerllaw | Afon Dnieper |
| Cyfesurynnau | 47.85°N 35.1175°E |
| Cod post | 69001–69124 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Zaporozhye |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | pennaeth dinas |
| Pennaeth y Llywodraeth | Rehina Kharchenko |
![]() | |
Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Zaporizhzhia yw Zaporizhzhia (Wcreineg: Запоріжжя, Rwseg: Запорожье trawslythreniad: Zaporozhye) a saif ar Afon Dnieper. Ei henw hanesyddol, hyd at 1921, oedd Oleksandrivsk (Wcreineg: Олекса́ндрівськ, Rwseg: Александровск Aleksandrovsk).
Codwyd cadarnle yma ym 1770, fel un o'r amddiffynfeydd ar hyd ffin ddeheuol Ymerodraeth Rwsia yn erbyn Chaniaeth y Crimea. Dewiswyd y safle am ei bod yn agos i bencadlys hanesyddol y Cosaciaid ar Ynys Khortitsa, i dde rhaeadrau'r Dnieper, er mwyn atgyfnerthu rheolaeth Rwsia ar Gosaciaid Zaporizhzhia yn sgil diddymu'r Hetmanaeth. Dyrchafwyd Oleksandrivsk yn dref ym 1806, a thyfodd yn gyffordd bwysig wrth gludo nwyddau, yn enwedig wedi adeiladu'r rheilffordd yn y 1870au.
Achoswyd difrod mawr i Oleksandrivsk yn ystod Chwyldro Rwsia (1917–20). Dan lywodraeth Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, ailenwyd ac adferwyd y dref, a ffynnai'r economi yn sgil adeiladu Gorsaf Drydan Dŵr y Dnieper ym 1927–32. Boddwyd rhaeadrau'r Dnieper o ganlyniad i'r argae a godwyd fel rhan o'r orsaf drydan dŵr. Dinistriwyd yr argae gan y Fyddin Goch ym 1941 er mwyn atal yr Almaen Natsïaidd rhag ei gipio. Ailadeiladwyd yr argae a'r pwerdy gan y llywodraeth Sofietaidd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd diwydiant meteleg Zaporizhzhia ar sail yr orsaf drydan dŵr, gan gynnwys gweithfeydd haearn a dur a melin stribedi a barrau, a cheir hefyd ffatrïoedd i gynhyrchu ceir ac offer trydanol ac i droi sgil-gynhyrchion côc yn gemegion diwydiannol.[1]
Gostyngodd y boblogaeth o 815,000 yn 2001 i 799,000 yn 2005,[1] ac i 755,000 yn 2016.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Zaporizhzhya. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mai 2022.
- ↑ (Saesneg) "Zaporizhia", Internet Encyclopedia of Ukraine (2016). Adalwyd ar 28 Mai 2022.
