Athena
Athena, neu Pallas Athena (Lladin: Minerva), oedd duwies rhyfel a doethineb ym mytholeg y Groegiaid a nawdd-dduwies dinas Athen.
Cafodd ei geni o ben Zeus yn llawn arfog ac yn dwyn gwaywffon javelin yn ei llaw. Hi oedd hoff blentyn Zeus.
Yn ystod Rhyfel Caerdroea rhoddai Athena gymorth i'r Groegiaid yn erbyn gwŷr Caerdroea. Rhoddodd gymorth yn ogystal i'r arwr Heracles yn ei lafuroedd a thywysodd Perseus i wlad y Gorgoniaid. Diolch i nawdd ac amddiffyn y dduwies y cyrhaeddodd Odysseus ei gartref yn ddiogel, yn ôl Odysseia Homeros.
Roedd Athena yn dduwies wyryfol ac yn ddiwyd iawn. Roedd hi'n medru bod yn genfigennus, fel pan gollodd ornest yn erbyn Arachne o Lydia. Yn amser heddwch byddai'n troi ei nawdd at y celfyddydau a diwydiant, yn arbennig gwaith domestig.
Enwir dinas Athen ar ei hôl hi; roedd y Parthenon yn gysegredig iddi fel duwies y ddinas. Fe'i huniaethir â'r dduwies Rufeinig Minerva.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- 2 Pallas, asteroid a enwir ar ôl Pallas Athena.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) (Carlos Parada) Albwm o luniau o Athena
- (Saesneg) Roy George, "Athena: The sculptures of the goddess"
- (Saesneg) Theoi.com Dyfyniadau o destunau Clasurol am Athena
- (Saesneg) Gwreiddiau Athena yng ngwareiddiad Minoa, gan Virginia Hicks Archifwyd 2007-03-14 yn y Peiriant Wayback