Asteroid

Oddi ar Wicipedia
Asteroid
Enghraifft o'r canlynolmath o wrthrych seryddol Edit this on Wikidata
Mathminor planet, corff neu wrthrych bychan yng Nghysawd yr Haul Edit this on Wikidata
Rhan ogravitationally bound system Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Asteroid 216 Kleopatra (llun seiliedig ar ffotograffau).
Lleoliad y prif wregys asteroidau yng Nghysawd yr Haul.

Corff bychan yn y gofod yw asteroid sydd i'w cael fel rheol yn y prif wregys asteroidau rhwng y planedau Mawrth ac Iau. Credir bod yr asteroidau hyn yn olion planed a wnaeth fethu ffurfio yn nyddiau cynnar Cysawd yr Haul oherywdd dylanwad disgyrchiant Iau. Fel rheol, diffinnir corff bychan fel comed (seren gynffon) os ydyw'n dangos coma o nwy a rhew; os dim, diffinnir y corff fel asteroid.

Cafodd yr asteroid cyntaf, Ceres, ei darganfod yn 1801 gan Giuseppe Piazzi (erbyn hyn mae Ceres wedi cael ei ail-gatagoreiddio fel planed gorrach), ac ers hynny mae mwy na 200,000 wedi cael eu darganfod. Mae seryddwyr yn ystyried y gwaith o ddarganfod asteroidau i fod yn hynod o bwysig, achos y posibilrwydd y gall asteroid drawo'r Ddaear yn y dyfodol. Er mwyn darganfod mwy amdanynt, mae sawl chwiliedydd gofod NASA wedi ymweld ag asteroidau yn yr ugain mlynedd diwethaf, gan gynnwys Galileo (a wnaeth ymweld â 951 Gaspra a 243 Ida), NEAR (a wnaeth ymweld â 253 Mathilde a 433 Eros), ac eraill.

Rhai asteroidau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.