Ceres (planed gorrach)
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
planed gorrach, asteroid ![]() |
Màs |
939,300,000,000,000,000,000 Cilogram ![]() |
Dyddiad darganfod |
1 Ionawr 1801 ![]() |
Lleoliad |
Cysawd yr Haul ![]() |
![]() |
Ceres, a elwir hefyd 1 Ceres neu (1) Ceres, yw'r lleiaf o'r planedau corrach yng Nghysawd yr Haul a'r unig un wedi ei lleoli o fewn y Wregys Asteroid. Mae hi wedi ei henwi ar ôl Ceres ym mytholeg Rufeinig - duwies tyfiant planhigion a chariad mamol. Cafodd ei darganfod ar 1 Ionawr, 1801, gan Giuseppe Piazzi. Gyda thryfesur o ryw 950 km, Ceres yw'r gwrthrych mwyaf yn y Wregys Asteroid, yn ffurfio traean o gyfanswm crynswth y Wregys Asteroid. Yn wahanol i'r asteroidau, mae gan Ceres ffurf cronnell. Bydd y chwiliedydd gofod DAWN yn ymweld â Ceres yn 2015.