Asger Jorn
Asger Jorn | |
---|---|
Ffugenw | Asger Jorn |
Ganwyd | Asger Oluf Jørgensen 3 Mawrth 1914 Vejrum Parish |
Bu farw | 1 Mai 1973 Aarhus |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, dylunydd graffig, seramegydd, damcaniaethwr celf, lithograffydd, drafftsmon, artist |
Adnabyddus am | Stalingrad |
Mudiad | COBRA, Internationale situationniste |
Arlunydd a cherflunydd o Ddenmarc oedd Asger Jorn (3 Mawrth 1914 – 1 Mai 1973).
Ganwyd Asger Oluf Jörgensen yn Vejrum, Denmarc, ac astudiasai ym Mharis dan arweiniad Fernand Léger. Cyd-sefydlodd y mudiad COBRA ym 1948 gyda Karel Appel, Constant, Corneille, Christian Dotremont, a Joseph Noiret. Dechreuodd gweithio â serameg ym 1953, ac yn y 1950au a'r 1960au roedd yn gynhyrchiol ym meysydd paentio, gludwaith, darlunio llyfrau, argraffiadau, arlunio, tapestrïau, murluniau, a cherfluniaeth.[1]
Sefydlodd y Mudiad Rhyngwladol dros Bauhaus Dychmygiadol (MIBI), ac o hynny datblygodd yr Internationale situationniste ym 1957.[2] O 1966 hyd ei farwolaeth, canolbwyntiodd Jorn ar baentio ag olew, gan deithio i Giwba, Lloegr, yr Alban, yr Unol Daleithiau, ac Asia.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Asger Jorn. Amgueddfa Solomon R. Guggenheim. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2012.
- ↑ (Saesneg) Asger Jorn (Vejrum, 1914 - Aarhus, 1973). Oriel Gelfyddyd Jaski. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Daneg) (Saesneg) Museum Jorn