Arthur James
Jump to navigation
Jump to search
Arthur James | |
31ain Llywodraethwr PennsylvaniaPennsylvania
| |
Cyfnod yn y swydd 17 Ionawr 1939 – 19 Ionawr 1943 | |
Rhagflaenydd | George Earle |
---|---|
Olynydd | Edward Martin |
Geni | 14 Gorffennaf 1883 Plymouth, Pennsylvania |
Marw | 27 Ebrill 1973 (89 oed) |
Plaid wleidyddol | Gweriniaethol |
Priod | Ada Norris |
Alma mater | Prifysgol Talaith Pennsylvania |
Gwleidydd, cyfreithiwr, a barnwr Americanaidd oedd Arthur Horace James (14 Gorffennaf 1883 – 27 Ebrill 1973). Gwasanaethodd fel Llywodraethwr Pennsylvania o 1939 hyd 1943.
Cafodd ei eni ym Mhlymouth, Pennsylvania yn fab mewnfudwyr Cymreig. Mynychodd Ysgol Gyfraith Dickinson yn Carlisle, Pennsylvania a graddiodd yn y gyfraith ym 1904. Ym 1912 priododd Ada Norris, athrawes o Swydd Luzerne. Gwasanaethodd fel Twrnai Ardal Swydd Luzerne o 1920 hyd 1926. Ar 8 Tachwedd 1938, cafodd ei ethol i fod y 31ain Llywodraethwr ar Bennsylvania. Roedd yn erbyn New Deal Franklin D. Roosevelt.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Arthur Horace James Pennsylvania Historical & Museum Commission.