Arianllys byrgoes

Oddi ar Wicipedia
Arianllys byrgoes
Anthelia juratzkana
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Antheliaceae
Genws: Anthelia
Rhywogaeth: A. juratzkana
Enw deuenwol
Anthelia juratzkana

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Arianllys byrgoes (enw gwyddonol: Anthelia juratzkana; enw Saesneg: scarce silverwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r lliw llwyd glas golau yn nodweddiadol o'r Arianllys hirgoes a'r byrgoes, ac yn ei gwneud yn hawdd i'w hadnabod. Mae'r egin yn 0.5 mm o led, a gyda chwyddwydr, gellir gweld 3 rhes o ddail deulabed, gyda'u pwyntiau miniog wedi'u cywasgu i'r coesyn. Nid oes unrhyw lysieuyn afu Prydeinig arall yn llwydlas a chanddo 3 rhes o ddail sy'n deulabed.[1]

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae'r Arianllys byrgoes (A. juratzkana) yn aml yn tyfu ar derasau ger mannau lle mae eira'n hwyr yn dadmer ar gopa'r mynyddoedd. fel arall, mae i'w chanfod lethrau tamp.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Arianllys byrgoes gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Botaneg Caeredin; adalwyd 3 mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.