William Tudor Howell

Oddi ar Wicipedia
William Tudor Howell
Ganwyd19 Hydref 1862 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Bu farw3 Hydref 1911 Edit this on Wikidata
Kootenays, Nelson Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadDavid Howell, Edit this on Wikidata

Roedd William Tudor Howell (19 Hydref 18623 Hydref 1911) yn fargyfreithiwr Cymreig a gwleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Dinbych rhwng 1895 a 1900.[1]

Ganwyd Howell ym Mhwllheli yn fab i'r Gwir Barchedig David Howell, (Llawdden), Deon Tŷ Ddewi (Ficer Pwllheli ar adeg geni ei fab) ac Anne Powell, Pencoed ei wraig.[2]

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Wrecsam, Ysgol yr Amwythig a Choleg Newydd, Rhydychen lle raddiodd BA ym 1885.

Astudiodd y gyfraith yn y Deml Ganol gan gael ei alw i'r Bar ym 1887. Fe fu'n gweithio mewn siambrau yn Llundain yn gwasanaethu Cylchdaith Cyfreithiol De Cymru.

Roedd yn aelod amlwg o Gymry Llundain ei ddydd, yn ddarlithydd poblogaidd yng nghyfarfodydd y Cymmrodorion ac yn un o sylfaenwyr Pwyllgor Cymru Llundain i achub yr Eglwys Gymreig, mudiad a oedd yn gwrthwynebu'r ymgyrch i ddatgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru.

Ar ymddiswyddiad y cyn AS Ceidwadol George Thomas Kenyon o'r senedd yn etholiad Cyffredinol 1895 safodd Howell fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Bwrdeistref Dinbych, erbyn etholiad cyffredinol 1900 penderfynodd Kenyon bod o eisiau ei sedd y nôl a dad ddewiswyd Howell gan y Ceidwadwyr lleol.

Dychwelodd Howell i'w gwaith fel bargyfreithiwr ond mae ei hanes yn niwlog wedi hynny. Yng nghyfrifiad 1901[3] mae o'n byw yn Brighton gyda'i wraig Louise May, dynes 30 oed a anwyd yn Nice Ffrainc. Yn ôl cyfrifiad 1911 [4] mae o'n dal i fyw yn Brighton ond ar wahan i'w wraig ond mae'n nodi ei bod wedi bod yn briod ers 1900 ac yr oedd ganddo 2 blentyn. Ychydig fisoedd ar ôl y cyfrifiad ceir cofnod yn Calendr Profiant Cenedlaethol Lloegr a Chymru ei fod wedi marw yn Jesmond Ranch, Kooteney British Columbia Canada.[5] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Nelson BC.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wm.Tudor Howell Esq New Conservative Candidate For Denbigh Boroughs - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1894-04-14. Cyrchwyd 2020-02-27.
  2. "YSTAD DEON HOWELL - Y Negesydd". Cwmni Gwasg Idris. 1903-03-19. Cyrchwyd 2020-02-27.
  3. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1901 RG13; Piece: 929; Folio: 6; Page: 4
  4. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1911 RG14; Piece: 5146; Schedule Number: 67
  5. 18 Hydref 1912 Howell, William Tudor Principal Probate Registry. Calendar of the Grants of Probate and Letters of Administration made in the Probate Registries of the High Court of Justice in England. London, England
  6. William tudor Howell yn Find a Grave [1] adalwyd 14 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Thomas Kenyon
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Dinbych
18951900
Olynydd:
George Thomas Kenyon