Pen-coed

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pencoed)
Jump to navigation Jump to search
Pencoed
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Plouzane, Waldsassen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Pen-tyrch Edit this on Wikidata
Sir Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5104°N 3.3094°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000644 Edit this on Wikidata
Cod OS SS957815 Edit this on Wikidata
Cod post CF35 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Huw Irranca-Davies (Llafur)
AS/au Chris Elmore (Llafur)

Mae Pen-coed (hefyd: Pencoed)[1][2] yn dref ac yn gymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg. Poblogaeth Pencoed yw tua 11 mil (11,832 yn ôl ffigyrau diweddar). Mae Pencoed wedi ei hefeillio â threfi Waldsassen yn Bayern (Bavaria) yn Yr Almaen, a Plouzane yn Llydaw yn Ffrainc. Saiff Pencoed ar lannau Afon Ewenni Fawr o dan lethrau deheuol Mynydd y Gaer. Mae Nant Hendre hefyd yn llifo trwy'r dref i gyrraedd Afon Ewenni Fawr. Datblygodd y dref yn y 19g ar lethrau Cefn Hirgoed.

Bu Sony Electronics yn un o brif ddiwydiannau'r ardal hyd at 2005.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Huw Irranca-Davies (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Elmore (Llafur).[3][4]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-coed (pob oed) (9,166)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-coed) (1,004)
  
11.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-coed) (7430)
  
81.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pen-coed) (1,316)
  
34.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhencoed ym 1998. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dictionary of the Place-names of Wales; golygydion; Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer 2007. Defnyddiwyd "Pencoyt" yn 1149-1183 a "Pencoyd" erbyn 1415. Dywedir: Convention requires Pen-coed but usage favours Pencoed.-
  2. Mae Gwyddoniadur Cymru'n ffafrio'r sillafiad "Pen-coed"; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 700
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013